Y Gellifedw
Oddi ar Wicipedia
Cymuned (llywodraeth leol)|Cymuned]] a phentref yn ninas Abertawe yw Y Gellifedw (Saesneg: Birchgrove). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir, tua 6 millir o ganol Abertawe, fymryn i'r gogledd o draffordd yr M4, ac yn agos i'r ffîn gyda Castell-nedd Port Talbot. Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Lôn-las a rhan o'r Glais yn ogystal a'r Gellifedw ei hun. Mae'r boblogaeth tua 6,500.
Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yma. Agorwyd y pwll glo cyntaf yn 1845, ac yn ddiweddarach dechreuwyd gau arall. Caeodd Glofa Birchgrove yn 1931. Ceir nifer o olion o gyfnodau cynharach, yn cynnwys maen hir o'r enw Carreg Bica ar Fynydd Drummau.
Addysg yng NgelliFedw
Mae gan Y Gellifedw ysgol uwchradd a dwy ysgol gynradd. Mae'r dair ysgol yn rhai cyhoeddus, cymysg ac yn ddi-gyswllt o enwadau crefyddol. Fodd bynnag, o dan ddeddfwriaeth Prydeinig, rhaid i bob ysgol ddarparu cyfnod o addoli yn ddyddiol.
Agorwyd Ysgol Gyfun Birchgrove ym 1991 ar safle'r hen ysgol. Gwasanaetha ardaloedd Gellifedw, Glais a Chlydach. Serch hynny, mynycha nifer o ddisgyblion ardaloedd Glais a Chlydach ysgol uwchradd arall, Cwmtawe, tra bod disgyblion yn Llansamlet a'r Trallwyn yn mynychu ysgol Gelli Fedw yn hytrach na Chefn Hengoed.
Trefi a phentrefi Abertawe |
Abertawe | Casllwchwr | Clydach | Dynfant | Y Gellifedw | Y Glais | Gorseinon | Llandeilo Ferwallt | Llangyfelach | Llanrhidian | Y Mwmbwls | Penclawdd | Pontarddulais | Pontlliw | Port Einon | Rhosili | Sgeti | Treforys | Tre-gŵyr |
[[1]]
[[2]]