Rhosili
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan ym mro Gŵyr, de-orllewin Cymru, yw Rhosili (hefyd Rhossili). Mae'n gorwedd ar ben gorllewinol Penrhyn Gŵyr, tua 14 milltir i'r gorllewin o ddinas Abertawe. Mae traeth Bae Rhosili yn enwog am ei dywod braf.
Ger y pentref mae Ogof Paviland. Yn yr ogof honno darganfuwyd sgerbwd corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pafiland".
Trefi a phentrefi Abertawe |
Abertawe | Casllwchwr | Clydach | Dynfant | Y Gellifedw | Y Glais | Gorseinon | Llandeilo Ferwallt | Llangyfelach | Llanrhidian | Y Mwmbwls | Penclawdd | Pontarddulais | Pontlliw | Port Einon | Rhosili | Sgeti | Treforys | Tre-gŵyr |