Port Einon
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ar Benrhyn Gŵyr ym mwrdeisdref sirol Abertawe yw Port Einon (Saesneg: Port Eynon). Saif ar arfordir deheuol Gŵyr. Twristiaeth yw'r diwydiant pwysicaf yma bellach, ond ar un adeg roedd y diwydiant gwneud halen yn bwysig ac roedd hefyd chwarel galchfaen.
Sefydlwyd bad achub Poer Eynon yn ail hanner y 18fed ganrif, a bu yno hyd 1919. Ar 1 Ionawr 1916, boddwyd tri pan aeth y bad achub i gynorthwyo criw yr SS Dunvegan a longddrylliwyd gerllaw. Mae cofeb iddynt yn y fynwent.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Scurlage. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 574.
Trefi a phentrefi Abertawe |
Abertawe | Casllwchwr | Clydach | Dynfant | Y Gellifedw | Y Glais | Gorseinon | Llandeilo Ferwallt | Llangyfelach | Llanrhidian | Y Mwmbwls | Penclawdd | Pontarddulais | Pontlliw | Port Einon | Rhosili | Sgeti | Treforys | Tre-gŵyr |