Twin Town
Oddi ar Wicipedia
Twin Town | |
Cyfarwyddwr | Kevin Allen |
---|---|
Ysgrifennwr | Kevin Allen Paul Durden |
Serennu | Rhys Ifans Llŷr Ifans Dorien Thomas Dougray Scott Huw Ceredig |
Amser rhedeg | 99 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig Cymru |
Iaith | Saesneg Cymraeg |
Ffilm gomedi dywyll o 1997 yw Twin Town. Lleolwyd y ffilm yn Abertawe a defnyddiwyd y ddinas honno ar gyfer y gwaith ffilmio, ynghyd â thref Port Talbot. Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Kevin Allen a'r bwriad gwreiddiol oedd enwi'r ffilm yn Hot Dog, oherwydd bod fan cwn poeth yn cael ei weld mewn nifer o olygfeydd y ffilm.
Mae'r ffilm yn serennu Rhys Ifans, Llŷr Evans, Dougray Scott, Keith Allen, Brian Hibbard, Huw Ceredig, Dorien Thomas, Ronnie Williams. Mae Rhys Ifans yn chwarae cymeriad Jeremy Lewis tra bod ei frawd Rhys Ifans, Llŷr Evans yn actio rhan ei frawd, Julian Lewis, yn y ffilm hefyd. Gan ddefnyddio techneg sy'n atgoffa'r gwyliwr o ffilmiau Hitchcock, gmae'r cyfarwyddwr i'w weld ar y sgrîn, fel cyflwynydd sioe ar set deledu, ar y maes carafanau lle mae'r efeilliaid yn byw.