Siena
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith Toscana yn yr Eidal yw Siena.
Sefydlwyd Siena yn y cyfnod Etrwscaidd, (tua 900 CC hyd 400 CC), pan oedd yn eiddo llwyth y Saina. Yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Augustus, sefydlwyd tref Rufeinig, Saena Julia, yma. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Siena gan Senius, mab Remus, brawdRomulus.
Nid oedd Siena yn dref lewyrchus iawn yn y cyfnod Rhufeinig, a dim ond wedi i'r ardal ddod i feddiant y Lombardiaid y daeth ei safle yn fwy addas ar gyfer masnach. Cipiwyd y ddinas gan Siarlymaen yn 774, a daeth yn ganolfan fasnach bwysig.
Yn ystod y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif roedd Seiena yn ddinas-wladwriaeth anninynnol, a bu llawer o ymladd rhyngddi hi a dinas Fflorens. Ar 4 Medi 1260 ymladdwyd Brwydr Montaperti, pan enillodd y Sieniaid frwydr fawr dros fyddin Fflorens, gan ladd tua 15,000 ohonynt. Sefydlwyd Prifysgol Siena yn 1203. Daeth Gweriniaeth Siena i ben yn 1555, pan fu raid iddi ildio i Fflorens.
Ymhlith y prif atyniadau i ymwelwyr mae'r Duomo di Siena, yr Eglwys Gadeiriol, sy'n un o'r enghreifftiau gorau o bensaerniaeth romanesg. Enwyd canol hanesyddol Siena yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.