See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Shambo - Wicipedia

Shambo

Oddi ar Wicipedia

Tarw teml Hindŵaidd yn Skanda Vale, Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin, a brofodd yn bositif i'r diciâu ym Mai 2007 oedd Shambo (c.2001 – 26 Gorffennaf 2007). Sbardunodd ei achos anghydfod rhwng grwpiau Hindŵaidd a gwleidyddion a milfeddygon, a dadl eangach am y gyfraith a chrefydd.

Yn ôl cyfraith y Deyrnas Unedig rhaid difa anifeiliaid sydd wedi profi'n bositif i'r diciâu er mwyn gwarchod iechyd dynol ac iechyd anifeiliaid. Cafodd mynachod y deml wybod ar 5 Mai y byddai'r tarw chwech oed yn cael ei ddifa erbyn 21 Mai. Ar ôl derbyn penderfyniad Gweinyddiaeth yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig gan Lywodraeth y Cynulliad, cafodd Shambo ei wahanu o weddill y gyr o 35 anifail iach y deml. Dywedodd Fforwm Hindŵ Prydain y "byddai lladd tarw neu fuwch teml sanctaidd yn weithred sarhaus" gan fod gwartheg yn anifeiliaid sanctaidd yn ôl Hindŵaeth,[1] Galwodd y Fforwm ar i Lywodraeth San Steffan, trwy'r Ysgrifennydd Amgylchedd David Millband, a swyddogion y Cynulliad i ymyrryd yn y mater.[2]

Dywedodd Gweinidog Datblygu Gwledig Cymru Jane Davidson ym Mehefin yr oedd hi'n dueddol o gredu dylai'r tarw gael ei ddifa, ond fod trafod rhwng y mynachod a swyddogion yn parhau.[3] Ar 3 Gorffennaf penderfynodd hi y dylid difa Shambo. Yn dilyn y penderfyniad dywedodd Cyngor Hindw y Deyrnas Unedig y bydden nhw'n cefnogi'r deml pe bydden nhw'n cymryd camau cyfreithiol.[4] Ysgrifennodd y mynachod at Lywodraeth y Cynulliad a chyflwynodd cyfreithwyr ar ran y mynachod ddadleuon cyfreithiol yn erbyn difa'r tarw,[5] ac ar 16 Gorffennaf cyhoeddwyd bod barnwr yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd wedi dileu gorchymyn y Llywodraeth, gan ei fod yn groes i Gonfensiwn Hawliau Dynol. Apeliodd y Llywodraeth yn erbyn y dyfarniad ac fe gafodd dyfarniad yr Uchel Lys ei wyrdroi ar apêl.[6] Ar 27 Gorffennaf aeth swyddogion i fewn a chymryd y tarw o'r deml a'i gludo i fan lle cafodd ei ladd.

Taflen Cynnwys

[golygu] Dadleuon o blaid difa

Mae'r rhai o blaid difa Shambo yn credu taw mater o ddiogelwch i iechyd dynol ac anifeilaidd yw difa'r tarw, a rhai yn dweud ni all y gyfraith gwneud eithriadau, hyd yn oed yn achos cred.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad:

"Rydyn ni'n deall bod hyn yn gyfnod pryderus i'r perchnogion ond mae'r mesurau yn bodoli er mwyn gwarchod iechyd y cyhoedd ac iechyd yr anifeiliaid ac atal lledu'r afiechyd. Mae anifail sy'n cael ei gadw gan gymuned Skanda wedi profi'n bositif ac mae'r achos yn cael ei drin yn y ffordd arferol. Fe fydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i drafod y mater yn sensitif."[2]

Dywedodd Cymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain dylai'r perchnogion caniatáu i Shambo gael ei ddifa gan fod unrhyw beryg o ledaenu'r diciâu yn annerbyniol.[2]

Dywedodd tair o bleidiau'r Cynulliad, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr, a'r Democratiaid Rhyddfrydol, bod angen difa Shambo.[7]

[golygu] Dadleuon yn erbyn difa

Mae'r rhai yn erbyn difa Shambo yn credu bod modd cadw'r tarw yn fyw yn ddiogel o heintio pobl ac anifeiliaid eraill, ac bod gwneud yr eithriad yma yn achos cred yn dderbyniol.

Dywedodd Ramesh Kallidai, aelod o Fforwm Hindŵ Prydain:

"Fel cymdeithas gyfrifol mae'r deml wedi cael cyngor milfeddygol ac mae Shambo ar wahân er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ledu'r afiechyd. Fe fydd lladd Shambo yn sarhau traddodiad ein crefydd ac yn halogi ein teml. Mae'n mynd yn groes i safonau ein crefydd."[2]

Cafodd ddeiseb ar y we o blaid achub Shambo ei harwyddo gan dros 20 000 o bobl.[8]

[golygu] Cyfeiriadau a nodiadau

  1. Er fod gwartheg yn cael eu hystyried yn anifeiliaid "sanctaidd" gan y mwyafrif helaeth o Hindŵiaid, mae rhai cymunedau'r grefydd yn bwyta cig eidion ac ddim yn credu ei bod yn bechod i ladd buwch neu darw.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  'Peidiwch â difa'r tarw sanctaidd'. BBC Cymru'r Byd. BBC (11 Mai, 2007). Adalwyd ar 2 Gorffennaf, 2007.
  3.  Difa Shambo'n 'debygol'. BBC Cymru'r Byd. BBC (26 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 2 Gorffennaf, 2007.
  4.  Gweinidog: 'Rhaid difa Shambo'. BBC Cymru'r Byd. BBC (3 Gorffennaf, 2007).
  5.  Ymdrech olaf i achub Shambo. BBC Cymru'r Byd. BBC (29 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 16 Gorffennaf, 2007.
  6.  Shambo: Mynachod yn ennill. BBC Cymru'r Byd. BBC (16 Gorffennaf, 2007). Adalwyd ar 16 Gorffennaf, 2007.
  7.  Tair plaid: 'Rhaid difa Shambo'. BBC Cymru'r Byd. BBC (8 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 2 Gorffennaf, 2007.
  8. (Saesneg) Skanda Vale Petition. The Community of The Many Names of God (Rhif Elusen Gofrestredig 511166). Adalwyd ar 16 Gorffennaf, 2007.

[golygu] Cysylltiadau allanol

Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -