Saith Rhyfeddod yr Henfyd
Oddi ar Wicipedia
Yn ôl traddodiad yr Henfyd cyfrifid saith o blith holl weithiau dyn yn deilwng i'w rhyfeddu atynt yn bennaf oll. Cai saith rhyfeddod yr Henfyd, yn adeiladau a gwaith celf, eu hedmygu am eu maint neu eu hysblander. Dyma nhw yn y drefn draddodiadol:
- Pyramidau'r Aifft
- Gerddi Crog Babilon (gweler hefyd Babilon)
- Teml Artemis (Effesus) (gweler hefyd Effesus)
- Cerflun Zeus (Olympia) gan Phidias (gweler hefyd Olympia a Zeus)
- Mausoleum Halicarnassus (gweler hefyd Mausolus a Halicarnassus)
- Colossus Rhodes gan Chares (gweler hefyd Rhodes
- Pharos Alecsandria (y goleudy yn Alecsandria)