Teml Artemis (Effesus)
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Teml Artemis (Lladin Diana) yn Effesus yn un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd.
Codwyd y deml yn y flwyddyn 356 CC.
Yn y deml cedwid delw enwog o'r dduwies Artemis â nifer o fronnau. Roedd yr Artemis hon, a addolid yn Effesus ac yn Asia Leiaf, yn wahanol i'r Artemis Glaurol a addolid yng Ngwlad Groeg. Duwies ffrwythlondeb oedd hi, yn agwedd ar y Fam Dduwies a reolai Natur.
Ymosododd Sant Paul yn drwm ar y deml a'r addoliaeth o'r dduwies Artemis. Ei enw arni yw "Diana yr Effesiaid" (Llyfr yr Actau 19:28).
Cedwir y cerflun enwog o Artemis yn Amgueddfa Archaeolegol Effesus heddiw.