See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Qom - Wicipedia

Qom

Oddi ar Wicipedia

Mosg Hazrat Fatimah yn Qom
Mosg Hazrat Fatimah yn Qom

Y mae Qom (Perseg: قم, hefyd Q'um neu Kom) yn ddinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth Iran. Mae'n gorwedd 156km i'r de-orllewin o Tehran, prifddinas Iran, ac mae'n brifddinas talaith Qom. Amcangyfrifwyd fod ganddi boblogaeth o 1,042,309 yn 2005. Mae'r ddinas yn gorwedd ar lannau Afon Qom.

Ystyrir Qom yn ddinas sanctaidd gan Mwslemiaid Shia, am ei bod yn gartref i gysegrfan Fatema Mæ'sume, chwaer yr Imam `Ali ibn Musa Rida (Perseg: Imam Reza, OC 789-816). Qom yw canolfan bwysicaf ysgolheictod Shi'a yn y byd, ac mae'n ganolfan pererindod bwysig. Yn ogystal mae Qom yn gartref i ran o raglen gofod Iran.

[golygu] Hanes

Mae hanes Qom fel canolfan drefol yn ymestyn yn ôl i'r cyfnod cyn-Islamig. Mae darganyddiadau archaeolegol yn dangos fod pobl yn byw yno ers y 5ed mileniwm CC. Dan yr enw Kum, tyfodd i fod yn ddinas ranbarthol bwysig. Pan gyrhaeddodd yr Arabiaid yn y 7fed ganrif newidiwyd yr enw i Qom.

Yn cyfnod y Seljukiaid blodeuodd Qom. Ond pan ddaeth y Mongoliaid i oresgyn Persia dioddefodd y ddinas ddinistr ar raddfa sylweddol. Ond yn ddiweddarach, ar ôl i'r frenhinllin Fongolaidd (yr Ilkhanate), droi i Islam yn ystod teyrnasiad Öljeitü (Perseg: Muhammad Khudabænde), adferwyd y ddinas i'w hen ogoniant.

Ar ddiwedd y 14eg ganrif cafodd y ddinas ei difetha gan Tamerlane a lladdwyd nifer o'r trigolion. Unwaith eto adferwyd y ddinas a daeth yn ganolfan bererindod fawr yng nghyfnod y Safavid. Erbyn 1503 roedd nifer o ysgolion diwinyddol yn Qom.

Dioddefodd eto gan y goresgyniadau Affgan ac yn nheyrnasiad Nadir Shah. Yn 1793 daeth Qom dan reolaeth Agha Muhammad Khan Qajar. Dyma'r cyfnod pan ychwanegwyd yn sylweddol i adeiladwaith trawiadol Mosg Hazrat Fatimeh.

Yn ystod y goresgyniad gan Rwsia yn 1915, symudodd nifer o drigolion Tehran i Qom am ddiogelwch a bu bron i'r brifddinas gael ei symud i Qom. Sefydlwyd "Pwyllgor Amddiffyn Cenedlaethol" yn Tehran, a throes Qom yn un o ganolfannau pwysicaf y gwrthwynebiad gwladgarol i ddominyddiaeth a rheolaeth Rwsia a Phrydain yn Iran.

Yn ddiweddarach, bu Qom yn ganolfan i'r Ayatollah Khomeini yn ei wrthwynebiad i'r Pahlaviaid, cyn ei alltudio o'r wlad, a arweiniodd yn y pen draw at Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979.

[golygu] Gefeilldrefi


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -