Tehran
Oddi ar Wicipedia
Tehran yw prifddinas Iran a thalaith Tehran, yng ngogledd canolbarth y wlad.
Mae'r ddinas yn gorwedd yng ngogledd canolbarth y wlad wrth droed mynyddoedd Elburz.
Daeth Tehran yn brifddinas y wlad yn 1788.
Gwelwyd terfysg fawr yn y brifddinas adeg y chwyldro yn 1979 pan fwriwyd y Shah o'i orsedd.
Mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r ddinas yn ddiweddar ond mae Palas Gulistan (palas y shah cyn y chywldro) yn hen.
Tehran yw canolfan fasnachol, weinyddol, ddiwyllannol a diwydiannol Iran. Ceir chwech prifysgol ynddi.