Ali al-Rida
Oddi ar Wicipedia
Ali ibn Musa al-Rida (Arabeg: علي بن موسى الرضا) (neu Ali al-Rada) (tua 1 Ionawr, 765 - 26 Mai, 818) oedd Seithfed ddisgynydd y Proffwyd Muhammad a'r wythfed Imam Shia. Ei enw genedigol oedd Ali ibn Musa ibna Ja'far. Yn yr iaith Berseg fe'i adnabyddir fel yr Imam Reza. Cafodd ei eni yn nhŷ'r seithfed Imam Shia, Musa al-Kazim, ym Medina (Saudi Arabia heddiw).
Daeth ei chwaer yn santes. Ceir cysegrfan iddi yn ninas Qom yn Iran sy'n ganolfan pererindod bwysig i Fwslemiaid Shia.