See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Pampa - Wicipedia

Pampa

Oddi ar Wicipedia

Gweler hefyd Pampa (gwahaniaethu).
Golygfa o'r awyr ar y Pampas (ger Buenos Aires)
Golygfa o'r awyr ar y Pampas (ger Buenos Aires)
Golygfa o'r awyr o lynnoedd y Pampas (ger Buenos Aires)
Golygfa o'r awyr o lynnoedd y Pampas (ger Buenos Aires)

Y Pampas (pampa : benthycair o'r iaith Quechua, sy'n meddwl "gwastadedd") yw'r gwastadeddau ffrwythlon yn iseldiroedd De America sy'n cynnwys taleithiau Buenos Aires, La Pampa, Santa Fe, a Córdoba yn yr Ariannin, rhan helaeth o Uruguay, a phwynt deheuol Brasil, sef y Rio Grande do Sul, ac sy'n cynnwys dros 750,000 km² (290,000 milltir sgwar). Dim ond bryniau isel Ventana a Tandil ger Bahía Blanca a Tandil(Ariannin), sy'n cyrraedd 1,300 m a 500m, sy'n torri ar undonedd y gwastadeddau anferth hyn. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol, gyda rhwng 600 a 1,200 mm o law, sy'n syrthio trwy'r flwyddyn ac sy'n gwneud y pridd yn addas ar gyfer amaethyddiaeth.

Oherwydd y tanau niferus sy'n torri allan yn lleol, dim ond planhigion llai fel gwair sy'n tyfu yno a phrin yw'r coed. Mae "Gwair Pampas" (Cortaderia selloana) yn blanhigyn sy'n nodweddiadol o'r Pampas. Mae'r Pampas yn gartref i ystod eang o rywogaethau brodorol eraill, ac eithrio coed brodorol, sydd ddim ond i'w cael ar hyd yr afonydd.

Gellid rhannu'r pampas yn dair ardal ecolegol. Gorwedd safana Uruguay i'r gorllewin o afon Uruguay, ac mae'n cynnwys y cyfan o Uruguay a rhan ddeheuol Rio Grande do Sul ym Mrasil. Mae'r Pampas Gwlyb yn cynnwys dwyrain talaith Buenos Aires, a de talaith Entre Rios. Mae'r Pampas Sych, lled-anial, yn cynnwys gorllewin talaith Buenos Aires a rhannau o dalaith Santa Fe, Cordoba, a La Pampa yn yr Ariannin. Mae'r Pampas yn ffinio ar weirdiroedd espinal yr Ariannin.

Ar bampas canolbarth yr Ariannin ceir busnesau amaethyddol llwyddianus, gyda chnydau'n cael eu tyfu ar y Pampas i'r de a'r gorllewin o Buenos Aires. Mae ffawydd soi yn nodweddiadol a phwysig. Mae rhan helaeth yr ardal yn gartref i ffermydd lle megir gwartheg yn ogystal. Ond mae llifogydd yn broblem ar y tiroedd amaethyddol artiffisial hyn.

[golygu] Dolenni allanol

[golygu] Gweler hefyd


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -