Oviedo
Oddi ar Wicipedia
Oviedo (Astwreg: Uviéu, Lladin: Ovetus) ydy prifddinas Tywysogaeth Asturias yng ngogledd Sbaen. Enw'r ardal weinyddol sy'n cynnwys y ddinas ydyw hefyd.
Fel prifddinas, hi yw canolfan weinyddol a masnachol y Gymuned Ymreolaethol. Y mae'r ddinas hefyd yn cynnal Seremoni Gwobrau Tywysog Astwrias unwaith y flwyddyn, gwobrau sy'n denu sylw rhyngwladol yn sgil enillwyr megis J. K. Rowling, awdures y llyfrau Harri Potter. Mae nifer o fyfyrwyr tramor yn astudio ym Mhrifysgol y ddinas ac mae'r hen ddinas a leolir o gwmpas yr Eglwys Gadeiriol, yn denu nifer o dwristiaid sy'n heidio i weld yr adeiladau hanesyddol.
Lleolir maes awyr y ddinas (yn wir, maes awyr yr ardal) rhyw 40 cilometr i ffwrdd.
[golygu] Pobl enwog o Oviedo
- Fernando Alonso, gyrrwr rasio Fformiwla Un