Niwclews atomig
Oddi ar Wicipedia
Ardal bach dwys yng nghanol atom yw niwclews atomig, mae ganddo wefr bositif sy'n cynnwys niwcleonau (protonau a niwtronau). Mae diamedr y niwclews yn amrywio yn ei faint o of 1.6 fm (10-15 m) (ar gyfer proton o hydrogen ysgafn) i tua 15 fm (ar gyfer yr atomau trymaf megis wraniwm). Mae'r meintiau'n lawer llai na maint cyfan yr atom, o gymhareb o 23,000 (wraniwm) i tua 145,000 (hydrogen). Creir bron holl fàs yr atom gan brotonau a niwtronau yn y niwclews, gyda chyfraniad bach iawn gan yr elecronau sy'n ei gylchu. Daw etymoleg y term niclews o 1704, agn olygu “cnewyllyn cneuen”. Yn 1844, defnyddiodd Michael Faraday y term i gyfeirio at “pwynt canolog yr atom”. Cynnigwyd yr ystyr gyfoes am un atomaidd gan Ernest Rutherford yn 1912.[1] Ni fabwysiadwyd y term “niwclews” i theori atomaidd yn syth, er engraifft yn 1916, fe ddywedodd Gilbert N. Lewis yn ei erthygl enwog The Atom and the Molecule[2], fod “yr atom wedi ei gyfansoddi o gnewyllyn ac atom allanol neu blisgyn”.