Atom
Oddi ar Wicipedia
Mewn Cemeg a Ffiseg, atom (Groeg: ἄτομος neu átomos sy'n cael ei gyfieithu'n "anwahanadwy" neu "methu ei dorri") yw'r gronyn lleiaf mewn elfen gemegol sy'n dal ei briodweddau cemegol. Er yn y gorffenol y credwyd ei fod yn amhosib torri atom, o fewn Cemeg modern rydym yn gwybod fod atom wedi ei gyfansoddi o ronynnau isatomig:
- electronau, sydd â gwefr negatif, maint mor fach y mae'n anfesuradwy, a màs llawer yn llai na'r ddau fath o ronyn isatomig arall.
- protonau, sydd â gwefr bositif, a màs sydd tua 1836 gwaith yn fwy na electron.
- niwtronau, sydd â dim gwefr, a màs sydd tua 1836 gwaith yn fwy na electron.
Mae'r protonau a niwtronau yn ffurfio niwclews atomig dwys a masfawr, a elwir yn luosogol yn niwcleonau. Mae'r electronnau yn ffurfio cwmwl o electronnau sy'n amgylchynu y niwclews.