Mynydd Tambora
Oddi ar Wicipedia
Mae Mynydd Tambora (neu Tomboro) yn losgfynydd ar ynys Sumbawa yn Indonesia. Mae'n enwog am y ffrwydrad anferth yn 1815, pan laddwyd o leiaf 71,000 o bobl. Gollyngwyd cymaint o ludw i'r awyr nes i'w effeithiau gael eu teimlo cyn belled ag Ewrop, lle galwyd 1816 "y flwyddyn heb haf" oherwydd ei effeithiau ar y tywydd.
Mae gan y bardd Gwallter Mechain (Walter Davies, 1761-1849) gerdd hir sy'n disgrifio'r effaith ar Gymru yn 1816. Dyma'r llinellau agoriadol:
- 'Leni ni bu hardd-gu hin,
- Mai hafaidd na Mehefin ;
- Ni ffynnodd ein Gorffennaf,
- Pob dyffryn a glyn yn glaf ;
- Yn Awst, gwlyb wair mewn ystod,
- Medi heb fedi i fod.'
- ('Cywydd y Cynhaeaf Gwlyb, 1816')[1]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ D. Silvan Evans (gol.), Gwaith Gwallter Mechain, cyfrol 1 (Caerfyrddin, 1868). Orgraff ddiweddar.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.