Mur Berlin
Oddi ar Wicipedia
Mur Berlin oedd yr enw answyddogol a roddwyd ar y mur anferth a godwyd yn 1961 ym Merlin rhwng Gorllewin Berlin a Dwyrain Berlin i atal ffoaduriaid rhag croesi i'r Gorllewin. Am ddegawdau roedd Mur Berlin yn symbol o'r rhwyg rhwng Dwyrain a Gorllewin Ewrop a rhwng y Gorllewin a'r Byd Comiwnyddol yn gyffredinol.
Ym mis Tachwedd 1989 tynnwyd rhan sylweddol o'r mur i lawr gan Almaenwyr cyffredin; un o ddigwyddiadau hanesyddol mwyaf yr 20fed ganrif sy'n symboleiddio diwedd y Rhyfel Oer a'r newid mawr a fu yng ngwledydd Cytundeb Warsaw ac Ewrop gyfan yn sgîl hynny.