See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
John Rhŷs - Wicipedia

John Rhŷs

Oddi ar Wicipedia

Ysgolhaig Cymraeg a Cheltaidd oedd John Rhŷs (ei orgraff arferol ei hun) neu John Rhys (21 Mehefin, 1840 - 17 Rhagfyr, 1915), a aned ger Ponterwyd, Ceredigion. Roedd yn un o'r ysgolheigion Celtaidd a golygyddion testunau Cymraeg Canol gorau ei ddydd.

Taflen Cynnwys

[golygu] Hanes

John Rhŷs, tua 1890
John Rhŷs, tua 1890

Graddiodd Rhŷs yn Mhrifysgol Rhydychen gydag anrhydedd yn y Clasuron yn 1869. Ar ôl treulio cyfnod o astudio tramor a gweithio fel arolygydd ysgol yn yr hen Sir y Fflint fe'i penodwyd yn Athro Celteg cyntaf ei hen brifysgol yn 1877. Yn 1895 daeth yn brifathro Coleg Iesu yno. Chwaraeodd ran bwysig ym mywyd Cymreig y brifysgol gan gynnwys bod yn llywydd cyntaf Cymdeithas Dafydd ap Gwilym (1886).

[golygu] Ysgolheictod

Daeth i adnabod Syr John Morris-Jones yn Rhydychen a gweithiasant gyda'i gilydd ar olygiad o Lyfr yr Ancr. Roedd yn ieithydd penigamp; ei gyfrol Lectures on Welsh Philology (1877) oedd y gwaith cyntaf i ddefnyddio dulliau newydd ieithyddiaeth gymharol i astudio hanes yr iaith Gymraeg. Gweithiodd ar y cyd â John Gwenogvryn Evans i olygu cyfres bwysig o destunau Cymraeg Canol, gan gynnwys Llyfr Coch Hergest a Llyfr Llandaf.

Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar hanes traddodiadol, llên gwerin a mytholeg Geltaidd yn ogystal, gan gynnwys y cyfrolau pwysig Celtic Britain (1882) a Celtic Folkore, Welsh and Manx (1901). Er gwaethaf eu gwendidau - beiau'r oes yn bennaf - mae'r cyfrolau hyn yn gerrig milltir pwysig yn hanes ysgolheictod Celtaidd.

[golygu] Llyfryddiaeth

[golygu] Gwaith Rhŷs

  • Lectures on Welsh Philology (1877)
  • Celtic Britain (1882)
  • Lectures on the Origin and Growth of Religion as illustrated by Celtic Heathendom (1888)
  • Studies in the Arthurian Legend (1891)
  • The Outlines of the Phonology of Manx Gaelic (1894)
  • The Welsh People (1900). Gyda D. Brynmor Jones.
  • Celtic Folkore, Welsh and Manx (1901)

Gyda John Morris-Jones:

  • The Elucidarium... from Llyvyr Agkyr Llanddewivrevi (1894)

Gyda J. Gwenogvryn Evans:

  • The Text of the Mabinogion... from the Red Book of Hergest (1887)
  • The Test of the Bruts... from the Red Book of Hergest (1890)
  • The Text of the Book of Llandâv (1893)

[golygu] Darllen pellach

Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -