See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Johannes Vermeer - Wicipedia

Johannes Vermeer

Oddi ar Wicipedia

Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Johannes Vermeer neu Jan Vermeer (bedyddwyd 31 Hydref 1632, bu farw 15 Rhagfyr 1675), a baentiodd yn y steil Baroque. Roedd yn arbenigo mewn golygfeydd o ddydd i ddydd o fewn y cartref. Treuliodd rhanfwyaf o'i fywyd yn Delft. Yn ystod ei fywyd, roedd Vermeer yn baentwr weddol llwyddianus o fewn ei dalaith. Nid oedd erioed yn arbennig o gyfoethog, efallai gan na gynhyrchodd nifer fawr o baentiadau, gadawodd ei wraig a'i unarddeg o blant mewn dyled pan fu farw.

Bu bron iddo gael ei anghofio am ddau gan mlynedd hyd i feirniadwr celf, Thoré Bürger, gyhoeddi traethawd yn 1866, yn priodoli 66 iddo (dim ond 35 o baentiadau sydd wedi eu prodoli i Vermeer yn gadarn). Ers hynnu, mae enw Vermeer wedi dod i'r amlwg, a cydnabyddir ef fel un o baentwyr gorau'r Oes Aur Iseldiraidd, mae'n enwog yn arbennig am ei driniaeth meistriol o olau yn ei waith.

Heddiw prodolir 35 o baentiadau i Vermeer yn gadarn. Dyma'r rhestr:

  1. Christ in the House of Martha and Mary (1654-1655) - Olew ar gynfas, 160 x 142 cm, Oriel genedlaethol yr Alban, Caeredin
  2. Diana and Her Companions (1655-1656) - Olew ar gynfas, 98.5 x 105 cm, Mauritshuis, The Hague
  3. The Procuress (1656) - Olew ar gynfas, 143 x 130 cm, Gemäldegalerie Alte Meister, Dresden
  4. Girl reading a Letter at an Open Window (1657) - Olew ar gynfas, 83 x 64.5 cm, Gemäldegalerie Alte Meister, Dresden
  5. A Girl Asleep (1657) - Metropolitan Museum of Art, Efrog Newydd
  6. The Little Street (1657/58) - Rijksmuseum, Amsterdam
  7. Officer with a Laughing Girl (tua 1657) - Olew ar gynfas, 50.5 x 46 cm, Frick Collection, Efrog Newydd
  8. The Milkmaid (tua 1658) - Olew ar gynfas, 45.5 x 41 cm, Rijksmuseum, Amsterdam
  9. A Lady Drinking and a Gentleman (1658-1660) - Olew ar gynfas, 39.4 x 44.5 cm,Gemäldegalerie, Berlin
  10. The Girl with the Wineglass (tua 1659) - Olew ar gynfas, Herzog Anton-Ulrich-Museum, Braunschweig
  11. View of Delft (1659-1660) - Olew ar gynfas, 98.5 x 117.5 cm, Mauritshuis, The Hague
  12. Girl Interrupted at her Music (1660-1661) - Olew ar gynfas, 39.4 x 44.5 cm, Frick Collection, Efrog Newydd
  13. Woman in Blue Reading a Letter (1663-1664) - Olew ar gynfas, 46.6 x 39.1 cm, Rijksmuseum, Amsterdam
  14. The Music Lesson or A Lady at the Virginals with a Gentleman (1662/5) - Olew ar gynfas, 73,3 x 64,5 cm, Queen's Gallery, Llundain
  15. Woman with a Lute near a Window (tua 1663) - Olew ar gynfas, 51.4 x 45.7 cm, Metropolitan Museum of Art, Efrog Newydd
  16. Woman with a Pearl Necklace (1662-1664) - Olew ar gynfas, 55 x 45 cm, Gemäldegalerie, Berlin
  17. Woman with a Water Jug (1660-1662) - Olew ar gynfas, 45,7 x 40,6 cm, Metropolitan Museum of Art, New York
  18. A Woman Holding a Balance (1662-1663) - Olew ar gynfas, 42,5 x 38 cm, National Gallery of Art, Washington
  19. A Lady Writing a Letter (1665-1666) - Olew ar gynfas, 45 x 40 cm, National Gallery of Art, Washington
  20. Girl with a Pearl Earring (a.k.a. Girl In A Turban, Head Of Girl In A Turban, The Young Girl With Turban) (tua 1665) - Olew ar gynfas, 46.5 x 40 cm, Mauritshuis, The Hague
  21. The Concert (1665-1666) - Olew ar gynfas, 69 x 63 cm, stolen in March 1990 from the Isabella Stewart Gardner Museum, Boston[1]
  22. Portrait of a Young Woman (1666-1667) - Olew ar gynfas, 44.5 x 40 cm, Metropolitan Museum of Art, Efrog Newydd
  23. The Allegory of Painting or The Art of Painting (1666/67) - Kunsthistorisches Museum, Vienna
  24. Mistress and Maid (1667/68) - Frick Collection, Efrog Newydd
  25. Girl with a Red Hat (1668) - Oriel Genedlaethol Celf, Washington
  26. The Astronomer (1668) - Louvre, Paris
  27. The Geographer (1668/69) - Städelsches Kunstinstitut, Frankfurt am Main
  28. The Lacemaker (1669/70) - Louvre, Paris
  29. The Love Letter (1669/70) - Rijksmuseum, Amsterdam
  30. Lady writing a Letter with her Maid (1670) - Olew ar gynfas, 71.1 x 58.4 cm, National Gallery of Ireland, Dublin
  31. The Allegory of Faith (1671/74) - Metropolitan Museum of Art, New York
  32. The Guitar Player (1672) - Iveagh Bequest Kenwood House, London
  33. Lady Standing at a Virginal (1673/75) - Oriel Genedlaethol, Llundain
  34. Lady Seated at a Virginal (1673/75) - Oriel Genedlaethol, Llundain

Taflen Cynnwys

[golygu] Oriel

[golygu] Gweithiau o awduraeth ansicr

  • Saint Praxidis (tua 1655) - Olew ar ganfas, 102 x 83 cm, Casgliad Preifat
  • Girl with a Flute (1665-1670) - Olew ar banel, 20 x 17.8 cm, Oriel Genedlaethol Celf, Washington
  • A Young Woman Seated at the Virginals (1670) - Wynn Las Vegas, Las Vegas
  • Portrait of a Woman (1655-1660) -

[golygu] Gweithiau ffug

Paetiwr o'r Iseldiroedd oedd Han van Meegeren, a weithiodd yn y traddodiad clasurol. Penderfynnodd baentio gwaith Vermeer ffug i brofi i feirniadwyr ei fod yn baentiwr da. Yn ddiweddarach, paentiodd rhagor o waith ffug Vermeer ac arlunwyr eraill er mwyn ennill arian. Fe dwyllodd Van Meegeren y sefydliad celf, ni gymerwyd ef o ddifri tan iddo ddangos ei sgiliau o flaen yr heddlu. Fe ddychrynodd ei ddawn am greu gwaith celf ffug y byd celf, gan achosi i weithiaue a'u pennodwyd i Vermeer gael eu hasesu er mwyn cysidro eu dilysrwydd. Wedi datguddiad Van Meegeren yn 1945, fe ddechruodd nifer o orielau hunan feirniadu a diflannodd nifer o hen feistrau o'u waliau. Rhoddir engreifftiau ym mywgraffiad Van Meegeren, A New Vermeer.

[golygu] Vermeer mewn gweithiau eraill

  • Mae View of Delft Vermeer yn ymddangos mewn rhan pwysig o nofel gan Marcel Proust The Captive.
  • Mae'r llyfr Girl with a Pearl Earring a'r ffilm gyda'r un enw, wedi eu henwi ar ôl y paentiad; maent yn cyflwyno adroddiad ffuglen o greadigaeth y paentiad a pherthynas Vermeer gyda'r fodel.
  • Mae'r llyfr Girl in Hyacinth Blue wedi ei seilio ar baentiad ffuglenol gan Vermeer, a troswyd yn ffilm ar gyfer y teledu yn 2003, Brush with Fate.
  • Ysbrydolwyd gwirodlyn Vermeer Dutch Chocolate Cream Liqueur gan Vermeer, ac enwyd ar ei ôl, mae ei lofnod wedi ei boglynnu ar y fotel, ac mae'r logo yn cynnwys y paentiad Girl with a Pearl Earring.
  • Redd gan Salvador Dalí lawer o edmygedd o Vermeer, a phaentiodd fersiwn ei hun o The Lacemaker. Fe baentiodd Dali The Ghost of Vermeer of Delft Which Can Be Used As a Table yn 1934.
  • Mae nofel blant 2003, Chasing Vermeer, gan Blue Balliett, yn disgrifio lladrata A Lady Writing, mae dilysrwydd paentiadau Vermeer yn thema canolig (hefyd yn y llyfr The Wright 3 sy'n dilyn).
  • Seiliodd y cyfansoddwr Iseldiraidd, Louis Andriessen, ei opera Writing to Vermeer (1997-98, libretto gan Peter Greenaway), ar fywyd cartref Vermeer.
  • Mae ffilm Greenaway, A Zed & Two Noughts (1985), yn cynnwys llinell plot sy'n dilyn lawfeddyg orthopedic, Van Meegeren, sy'n ail-greu gosodiad paentiadau Vermeer er mwyn peintio copïau ohonynt.
  • Mae'r llyfr a'r ffilm Girl, Interrupted yn cyryd eu henwau o'r llun Girl Interrupted at her Music.
  • Mae Jan Vermeer yn deitl cân ar albwm unigol Bob Walkenhorst, The Beginner (lyrics here, song #6). Walkenhorst is the guitarist and principal songwriter for The Rainmakers.
  • All the Vermeers in New York, a film by Jon Jost

[golygu] Nodiadau a ffynonellau

Ffynonellau penodol:

  1. Stolen, rhaglen ddogfen am lladrad The Concert, o wefan PBS
  2. In-depth discussion of "Woman Holding a Balance" o wefan Oriel Genedlaethol Celf

Ffynonellau Cyffredin:

  • Sheldon, Libby and Nicola Costaros (2005), Johannes Vermeer’s ‘Young woman seated at a virginal’, THE BURLINGTON MAGAZINE, Chwefror 2006, Rhifyn 1235, Pennod CXLVIII.
  • Schneider, Nobert (1993), Vermeer, Benedikt Taschen Verlag GmbH, Köln.
  • Wadum, J., “Contours of Vermeer”, Vermeer Studies. Studies in the History of Art, 55. Center for Advanced Study in the Visual Arts, Symposium Papers XXXIII, gol. I. Gaskel a M. Jonker. Washington/New Haven (1998), tud. 201-223.
  • Encyclopædia Britannica Online Vermeer, Johannes. (2007).
  • Frederik H. Kreuger (2007) A New Vermeer, Life and Work of Han van Meegeren (ISBN 978-90-5959-047-2)
  • [1]
  • Arthur K. Wheelock, Jr. (1981,1988) Jan Vermeer (ISBN 0-8109-1737-8).
Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:

[golygu] Dolenni allanol


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -