Jason Queally
Oddi ar Wicipedia
Manylion Personol | |
---|---|
Enw Llawn | Jason Queally |
Dyddiad geni | 11 Mai 1970 (38 oed) |
Gwlad | Lloegr Y Deyrnas Unedig |
Taldra | 1.83 m |
Pwysau | 88 kg |
Gwybodaeth Tîm | |
Disgyblaeth | Trac |
Rôl | Reidiwr |
Prif gampau | |
Pencampwr y Byd Gemau Olympaidd Gemau Olympaidd Gemau'r Gymanwlad x5 Pencampwr Prydain |
|
Golygwyd ddiwethaf ar: | |
27 Medi, 2007 |
Seiclwr rasio Seisnig o Chorley, Swydd Gaerhirfryn ydy Jason Queally (ganwyd 11 Mai 1970)[1].
Tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerhirfryn, cynyrchiolodd brifysgolion Prydain a Chaerhirfryn ym mholo dŵr. Dechreuodd seiclo'n gystadleuol tra'n 25 oed. Yn 1996, bu bron iddo gael ei ladd yn trac seiclo Meadowbank yng Nghaeredin, pan aeth sblint pren o'r trac i mewn i'w frest ac iw ysgyfaint trwy ei gesail.
Yn Hydref 2001 cystadlodd Queally yn y World Human Powered Speed Challenge [2] yn Battle Mountain, Nevada ar Blueyonder beic recumbent [3], a adeiladwyn yn bennaf o ffibr carbon gan Reynard Motorsport i ddyluniad Chris Field. Cymerodd y cerbyd ei enw o'r noddwyr, Blueyonder (rhan o Virgin Media erbyn hyn). Yn y gystadleuaeth hom, mae'r holl gerbydau yn teithio heb gael eu cynorthwyo, gan allt, gwynt na theithio tu ôl i gerbyd arall. Deliodd Queally gyflymder o 64.34 mph am 200 medr, dros y rhan o'r cwrs a gafodd ei amseru, gan osod record newydd Ewropeaidd. Deliodd yr enillydd, Sam Whittingham, gyflymder o 80.55 mph.
[golygu] Canlyniadau
- 1998
- 2il Kilo, Gemau'r Gymanwlad
- 1999
- 2il Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
- 2000
- 1af Kilo, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Kilo, Gemau Olympaidd
- 2il Sbrint Tîm, Gemau Olympaidd
- 2il Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
- 3ydd Kilo,Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
- 2001
- 3ydd Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
- 2002
- 2il Kilo, Gemau'r Gymanwlad
- 2il Sbrint Tîm, Gemau'r Gymanwlad
- 2003
- 3ydd Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
- 2004
- 3ydd Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
- 2006
- 2il Kilo, Gemau'r Gymanwlad
- 2il Sbrint Tîm, Gemau'r Gymanwlad