See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Hwyaden Ddanheddog - Wicipedia

Hwyaden Ddanheddog

Oddi ar Wicipedia

Hwyaden Ddanheddog

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Mergus
Rhywogaeth: M. merganser
Enw deuenwol
Mergus merganser
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Hwyaden Ddanheddog (Mergus merganser) yn hwyaden fawr sy'n eithaf cyffredin ar afonydd a llynnoedd ar draws Ewrop, gogledd Asia a Gogledd America.

Mae nifer o is-rywogaethau:

  • M. m. merganser, yn Ewrop
  • M. m. orientalis, Canol Asia
  • M. m. americanus, Gogledd America

Mae'r Hwyaden Ddanheddog yn defnyddio tyllau mewn coed, yn agos i lan llyn neu afon, i nythu. Pysgod yw'r prif fwyd, ac maent yn eu dal trwy nofio ar eu holau o dan y dŵr. Mae ganddynt "ddannedd" ar hyd ymyl y pig sy'n ei gwneud yn haws iddynt ddal gafael ar bysgodyn, ac o hyn y daw'r enw. Gallant hefyd fwyta creaduriaid bychain eraill, ac mae'r cywion yn bwyta pryfed yn bennaf. Mae'r Hwyaden Ddanheddog yn aderyn mudol yng Ngogledd America a gogledd Ewrop ac Asia, yn symud tua'r de i aeafu. Yng ngorllewin Ewrop mae'n aros yn ei unfan trwy'r flwyddyn, er eu bod yn aml yn symud i lawr yr afon tua'r aber yn y gaeaf.

Dosbarthiad yr Hwyaden Ddanheddog
Dosbarthiad yr Hwyaden Ddanheddog

Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd, gyda'i ben du a'r rhan fwyaf o'r corff yn wyn. Mae'n rhaid bod yn fwy gofalus i wahaniaethu rhwng yr iâr a iâr Hwyaden Frongoch, gan fod y ddwy yn llwyd gyda pen browngoch. Ffordd dda i wahaniaethu rhyngddynt yw edrych ar y gwddf. Ar yr Hwyaden Ddanheddog mae'r lliw browngoch yn gorffen mewn llinell syth, gyda lliw llwyd y corff oddi tano. Ar iâr Hwyaden Frongoch mae'r lliw browngoch yn ymdoddi'n raddol i'r lliw llwyd. Mae'r Hwyaden Ddanheddog hefyd yn aderyn mwy o dipyn.

Mae'r Hwyaden Ddanheddog yn aderyn gweddol gyffredin ar afonydd a llynnoedd Cymru, yn enwedig yn y gogledd, ac mae'r niferoedd sy'n nythu yma wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -