Heliogabalus
Oddi ar Wicipedia
Sextus Varius Avitus Basianus, mwy adnabyddus fel Heliogabalus (c. 204 - 222) oedd ymerawdwr Rhufain o 218 hyd 222.
Ganed Heliogabalus yn Emesa, Syria, yn fab i Sextus Varius Marcellus a Julia Soaemias Bassiana. Yr oedd yn aelod trwy ei fodryb Avita Mamaea o deulu'r Severaid, a sefydlwyd gan yr ymerawdwr Septimius Severus. Yr oedd ei hynafiaid wedi bod yn offeiriaid y duw El-Gabal yn Emesa (Homs) heddiw). O hyn y daeth yr enw Heliogabalus.
Daeth yn ymerawdwr trwy fod ei nain, Julia Maesa, wedi llwgrwobrwyo y milwyr a lledaenu'r stori fod Heliogabalus yn fab gordderch i Caracalla. Cyhoeddodd y milwyr ef yn ymerawdwr ar 16 Mai 218. Ym mis Mehefin yr un flwyddyn gorchfygodd milwyr oedd yn cefnogi Heliogabalus filwyr yr ymerawdwr Macrinus mewn brwydr. Dienyddiwyd Macrinus, a daeth Heliogabalus yn ymerawdwr.
Yr oedd Heliogabalus yn ddilynydd y duwiau Ffenicaidd El-Gabal a Baal, a daeth a seremoniau i'w hanrhydeddu i Rufain. Ceisiodd sefydlu El-Gabal fel prif dduw y pantheon Rhufeinig dan yr enw Sol invictus ("Yr haul anorchfygol"). Priododd bum gwaith, gan gynnwys priodi un o'r gwyryfon Vestal, ond credir mai nid am resymau rhywiol y priododd. Yr oedd yn hoyw, a dywedir ei fod wedi cynnig swm mawr o arian i unrhyw lawfeddyg a allai ei droi yn ferch. Fodd bynnag ni allodd ddarganfod unrhyw lawfeddyg oedd yn barod i ymgymeryd a'r gwaith. Dywedir iddo syrthio mewn cariad a chaethwas o faintioli anferth o'r enw Heracles, ac ystyried penodi Heracles yn ymeradwr yn ei le, gydag ef ei hun ym ymerodres.
Yr oedd syniadau yr ymeradwr yn annerbyniol gan y mwyafrif o drigolion yr ymerodraeth a bu nifer o gynllwynion yn ei erbyn. Penderfynodd Julia Maesa ei bod yn bryd i'w ddiorseddu. Yr oedd gan Julia Maesa ferch arall, Julia Avita Mamaea, ac yr oedd ganddi hi fab 13 oed Alexander Severus. Llwyddodd i berswadio Heliogabalus i'w enwi ef fel ei etifedd, yna ceisiodd gynyddu poblogrwydd Alexandrus ymhlith y boblogaeth. Sylweddolodd Heliogabalus beth oedd ei bwriad, a gorchymynodd lofruddio Alexander, ond yr oedd Julia Maesa eisoes wedi llwgrwobrwyo'r milwyr. Lladdwyd Heliogabalus a'i fam Julia Soaemias ar 11 Mawrth 222, a thaflwyd eu cyrff i Afon Tiber.
O'i flaen : Macrinus |
Ymerodron Rhufain Heliogabalus |
Olynydd : Alexander Severus |