Hebog yr Ehedydd
Oddi ar Wicipedia
Hebog yr Ehedydd | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Falco subbuteo Linnaeus, 1758 |
Mae Hebog yr Ehedydd (Falco subbuteo) yn aderyn rheibiol bychan sy'n nythu trwy rannau helaeth o Ewrop ac Asia. Mae'n aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica a De Asia.
Gwelir Hebog yr Ehedydd o gwmpas tir agored fel rheol. Mae'n nythu mewn hen nythod adar eraill, yn enwedig brain. Adar a phryfed megis Gwas y neidr yw ei brif fwyd, a gan ei fod yn medru hedfan yn gyflym gall dal adar megis y Wennol neu hyd yn oed y Wennol Ddu, rhywbeth na all y rhan fwyaf o adar rheibiol ei wneud.
Gellir adnabod Hebog yr Ehedydd o'r adenydd hir gyda blaen miniog, sydd yn rhoi ffurf debyf i Wennol Ddu fawr iddo pan maen'n hedfan. Mae yn llwyd tywyll ar y cefn ac yn wyn ar y gwddf, gyda lliw coch o gwmpas y coesau.
Nid yw'n aderyn cyffredin yng Nghymru, ond mae nifer fychan o barau yn nythu yn y rhannau dwyreiniol ac mae'n ymddangos bod eu nifer yn cynyddu.