Gwobr Glyndŵr
Oddi ar Wicipedia
Gwobr Glyndŵr yw gwobr flynyddol am gyfraniadau arbennig i'r celfyddydau yng Nghymru. Fe'i rhoddir gan Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth i ffigyrau blaenllaw ym meysydd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth yn eu tro. Enwir y wobr ar ôl Owain Glyndŵr, a goronwyd yn Dywysog Cymru ym Machynlleth.
Medal arian fawr yw'r wobr, gyda chynllun yn dangos Bae Ceredigion ac Afon Dyfi, a lleoliad Machynlleth yn cael ei nodi gan darn o aur Cymreig pur 18ct. Cafodd ei chynllunio gan y gemwr lleol Kelvin Jenkins yn 1995, a gwneir copi newydd ganddo bob blwyddyn ers hynny.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Derbynwyr
[golygu] Cerddoriaeth
- Ian Parrott (1994)
- Alun Hoddinott (1997)
- Robin Huw Bowen (2000)
- Elinor Bennett (2003)
[golygu] Celf
- Syr Kyffin Williams (1995)
- Iwan Bala (1998)
- John Meirion Morris (2001)
- Peter Prendergast (2004)
[golygu] Llenyddiaeth
- Jan Morris (1996)
- Gillian Clarke (1999)
- Gerallt Lloyd Owen (2002)
- Dr John Davies (2005)