John Davies (hanesydd)
Oddi ar Wicipedia
Mae John Davies (ganed 1938) yn hanesydd sydd hefyd yn adnabyddus fel darlledydd. Ei lyfr enwocaf yw Hanes Cymru (ail argraffiad 2006), sy'n cael ei ystyried gan lawer o feirniaid fel y gyfrol orau i'w chyhoeddi ar y pwnc.
Ganed John Davies yn y Rhondda, ond symudodd ei deulu i bentref Bwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn saith oed. Addysgwyd ef yn ysgolion Treorci, Bwlchllan a Thregaron, yna ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Daeth yn aelod o Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn Warden Neuadd Pantycelyn yno. Wedi ymddeol, symudodd i fyw i Gaerdydd. Mae ei wraig yn frodor o Flaenau Gwent, ac mae ganddynt ddwy ferch a dau fab.
Yn 2005 cyflwynwyd Gwobr Glyndŵr iddo yn ystod Gŵyl Machynlleth am ei gyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Cardiff and the Marquesses of Bute (1981)
- The green and the red : nationalism and ideology in twentieth century Wales (1984)
- Hanes Cymru (1989) (ail-argraffiad 2006)
- Broadcasting and the BBC in Wales (1994)
- A history of Wales (1994) (cyfieithiad o Hanes Cymru; ail-argraffiad 2006)
- Plaid Cymru oddi ar 1960 (1997)
- The making of Wales (1999)
- The Celts (2000)
- Y Celtiaid (2001)
- Cardiff : a pocket guide (2002)