Doctor Who
Oddi ar Wicipedia
Doctor Who | |
---|---|
Logo Doctor Who ers 2005 |
|
Genre | Drama science fiction |
Crewyd gan | Sydney Newman C. E. Webber Donald Wilson |
Serennu | David Tennant Catherine Tate |
Cyfansoddwr y thema | Ron Grainer |
Thema'r dechrau | Doctor Who theme music |
Cyfansoddw(y)r | Murray Gold |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/Ieithoedd | Saesneg |
Nifer y Penodau | 744 (10 Mai 2008) |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 25 mun. (1963–1984, 1986–1989) 45 mun. (1985, 2005–presennol) |
Darllediad | |
Sianel Gyntefig | BBC One |
Rhediad cyntaf yn | Cyfres classig: 23 Tachwedd 1963 – |
Darllediad gwreiddiol | 6 Rhagfyr 1989 Ffilm teledu: 12 Mai 1996 Cyfres presennol: 26 Mawrth 2005 – presennol |
Cysylltiadau allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Rhaglen ffugwyddonol ydy Doctor Who
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cyfres Wreiddiol (1963-1989, 1996)
Rhedodd y gyfres wreiddiol o 23 Tachwedd 1963 - 6 Rhagfyr 1989. Chwaraewyd y prif gymeriad ('y Doctor') gan saith actor gwahanol:
- 1963-1966: William Hartnell
- 1966-1969: Patrick Troughton
- 1970-1974: Jon Pertwee
- 1974-1981: Tom Baker
- 1982-1984: Peter Davison
- 1984-1986: Colin Baker
- 1987-1989: Sylvester McCoy
- 1996 Ffilm Teledu: Paul McGann
[golygu] Cyfres Newydd (2005-)
Gafodd y gyfres ei ail-lansio yn 2005 yn bennaf trwy ymdrechion yr awdur teledu Russell T. Davies. Ffilmiwyd y Doctor Who newydd gan BBC Cymru, yn bennaf yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Yn y tymor cyntaf chwaraewyd rhan y Doctor gan Christopher Eccleston.
[golygu] Y Prif Gymeriadau yn yr ail dymor
- Y Doctor - David Tennant (2006-)
- Martha - Freema Agyeman (2007-)
- Y Doctor - Christopher Eccleston (2005)
- Rose - Billie Piper (2005-2006)
- Mickey - Noel Clarke (2005-2006)
- Jackie - Camille Coduri 2005-2006)
[golygu] Nofelau
Mae nifer o gyfresi o nofelau wedi cael eu rhyddhau yn seiliedig ar y gyfres:
- Nofelau Target - nofelau yn seiliedig ar anutriaethau o'r gyfres wreiddiol.
- Nofelau New Adventures Virgin - straeon newydd yn parhau hanes y Seithfed Doctor wedi diwedd y gyfres wreiddiol.
- Nofelau Missing Adventures Virgin - straeon newydd ar gyfer y chwech Doctor cyntaf.
- Nofelau Eighth Doctor Adventures y BBC - straeon newydd yn parhau hanes yr Wythfed Doctor ar ol y Ffilm Deledu.
- Nofelau Past Doctor Adventures y BBC - straeon newydd ar gyfer y saith Doctor cyntaf.
- Nofelau New Series Adventures y BBC - straeon newydd ar gyfer y Nawfed Doctor (yn 2005) a'r Degfed Doctor (o 2006 ymlaen) fel a welir yn y gyfres newydd.
[golygu] Cysylltiad Allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol