See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Diwrnod y Llyfr - Wicipedia

Diwrnod y Llyfr

Oddi ar Wicipedia

Logo Cymraeg Diwrnod y Llyfr 2008
Logo Cymraeg Diwrnod y Llyfr 2008

Dethlir Diwrnod y Llyfr yn flynyddol, ar y 23 Ebrill yn y rhan fwyaf o wledydd y byd. Trefnir gan UNESCO i hybu darllen, cyhoeddi a hawlfraint. Dathlwyd yr ŵyl am y tro cyntaf yn 1995.

Taflen Cynnwys

[golygu] Cychwyn

Gwnaethpwyd y cysylltiad rhwng 23 Ebrill a llyfrau am y tro cyntaf yn 1923 gan werthwyr llyfrau yn Catalonia, Sbaen fel ffordd o anrhydeddu'r awdur Miguel de Cervantes a fu farw ar y diwrnod hwnnw. Daeth hyn yn ran o ddathliad Diwrnod Sant Siôr (a oedd hefyd ar 23 Ebrill) yn yr ardal, lle mae'n draddodiad i ddynion ers yr Oesoedd Canol i ddynion rhoi rhosod i'w cariadon, ac ers 1925, i ferched roi llyfr mewn cyfnewid. Ceiff hanner y gwerthiant llyfrau yn Catalonia ei wneud ar y diwrnod yma gyda dros 400,000 yn cael eu gwerthu a'u cyfnewid am dros 4 miliwn o rosod.

Yn 1995, penderfynodd UNESCO y dylai Diwrnod y Llyfr gael ei ddathlu ar yr un diwrnod oherwydd yr ŵyl Gatalonaidd, ac oherwydd mai hwn yw pen-blwydd genedigaeth a marwolaeth William Shakespeare, marwolaeth Inca Garcilaso de la Vega a Josep Pla, genedigaeth Maurice Druon, Vladimir Nabokov, Manuel Mejía Vallejo a Halldór Laxness.

Er y dywedir yn aml mai 23 Ebrill ydy pen-blwydd marwolaethau Shakespeare a Cervantes, nid yw hyn yn hollol wir. Bu farw Cervantes ar 23 Ebrill yn ôl y Calendr Gregoriaidd; ond ar yr adeg hyn ym Mhrydain roeddent yn dal i ddefnyddio'r Calendr Iwliaidd. Tra bu farw Shakespeare ar 23 Ebrill yn ôl y Calendr Iwliaidd a ddefnyddwyd yn ei wlad ei hun ar y pryd, mewn gwirionedd, bu farw 10 diwrnod ar ôl Cervantes, oherwydd y gwahaniaethau rhwng y ddau system dyddio. Cyd-ddigwyddiad ffodus i UNESCO.

[golygu] Diwrnod y Llyfr yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon

Dathlwyd Diwrnod y Llyfr yn Deyrnas Unedig ac Iwerddon ers 1997, ac ers 2002, dethlir y gŵyl ar y ddydd Iau cyntaf ym mis Mawrth.

Rhoddir tocyn llyfr yn rhad ac am ddim i pob plentyn ysgol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae'r tocynnau'n werth £1.00 yn y Deyrnas Unedig ac 1.50 yn Iwerddon. Gellir eu defnyddio i brynu un o'r llyfrau sy'n cael eu rhyddhau'n arbennig ar gyfer yr ŵyl ac sy'n costio'r un faint a gwerth y tocyn, neu gellir eu defnyddio tuag at gôst unrhyw lyfr, neu lyfr ar dâp, arall. Mae nifer o ysgolion yn dal "darllen-athon" neu sêl llyfrau ar yr un diwrnod.

[golygu] Diwrnod y Llyfr yn Sbaen

I ddathlu'r diwrnod, darllenir Don Quixote gan Cervantes mewn "darllen-athon" deu-ddydd o hyd a gwobrwyir Gwobr Miguel de Cervantes gan Frenin Sbaen yn Alcalá de Henares.

[golygu] Nofelau

Dyma'r restr o'r nofelau a ryddhawyd ar gyfer hybu amryw o Ddiwrnodau'r Llyfr.

  • The Stone Pilot (2006)
  • Cloud Wolf (2001)
  • How to train your Viking (2006)
  • Hannah The Happily-Ever-After Fairy (2006)
  • Artemis Fowl: The Seventh Dwarf gan Eoin Colfer (2004)
  • Let the Snog Fest Begin!: Georgia Nicolson's Guide to Life and Luuurve (2007)
  • The Code of Romulus yn The Roman Mysteries cyfres gan Caroline Lawrence (2007)
  • Koyasan gan Darren Shan (2006)
  • Stealer of Souls gan Diana Wynne Jones (2002)
  • CHERUB: Dark Sun gan Robert Muchamore (2008)

[golygu] Dolenni Allanol


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -