Archimedes
Oddi ar Wicipedia
Mathemategydd, seryddwr a peirianydd o Roegwr oedd Archimedes (c.287 CC - 202 CC), yn enedigol o Syracuse, dinas Roegaidd ar arfordir dwyreiniol ynys Sisili.
Yr oedd ymhlith yr enwocaf o fathemategwyr yr Henfyd ac un o'r ymenyddol rymusaf a fu erioed. Mae'n cael ei gofio yn y traddodiad poblogaidd am ddefnyddio peiriannau gwrth-warchae yn erbyn llynges y Rhufeiniaid (Crafanc Archimedes), am y sgriwiau codi dŵr sy'n dwyn ei enw, ac am weiddi Eureka! yn y faddon pan ddarganfu gyfrinach y grym sy'n peri i gorff arnofio ar wyneb dŵr. Dywedir iddo gael ei ladd gan filwyr Rhufeinig yng gwarchae Syracuse - roedd o'n canolbwyntio cymaint ar weithio allan rhyw broblem fathemategol yn ei ben fel na sylwodd ar yr hyn oedd yn digwydd o'i gwmpas.
Ymddengys iddo ymweld a'r Aifft ac astudio yn Alecsandria, prifddinas dysg y cyfnod. Mae ei bwysigrwydd yn hanes mathemateg yn gorffwys ar ei ddarganfyddiadau o fformiwlâu am faint a chyfaint sfferau, silindrau, parabolau a ffigyrau gwastad a solet eraill, gwaith a ragflaenodd ddarganfyddiadau yn yr un meysydd yn Ewrop yn yr 17eg ganrif. Sefydlodd yn ogystal wyddor hydrostateg. Yn anffodus mae ei waith seryddol ar goll ers canrifoedd ac rydym yn dibynnu ar gyfieithiadau o'r Roeg i'r Arabeg am nifer o'i weithiau eraill.