Delos
Oddi ar Wicipedia
Mae Delos (Groeg: Δήλος, Dhilos) yn ynys yng nghanol y cylch o ynysoedd a elwir y Cyclades yng Ngwlad Groeg. Roedd yr ynys yn bwysig ym mytholeg Groeg; dywedid mai yma yr oedd man geni y duw Apollo a'r dduwies Artemis.
Credir fod pobl wedi bod yn byw ar Delos ers y trydydd mileniwm cyn Crist. Yn ôl yr hanesydd Thucydides roedd y boblogaeth wreiddiol yn forladrin Cariaidd, a yrrwyd o'r ynys gan y brenin Minos o ynys Creta. Erbyn cyfnod Homeros roedd yr ynys yn enwog fel man geni Apollo ac Artemis. Rhwng 900 CC a 100 OC., ystyrid Delos yn ynys sanctaidd, gyda theml i Dionysus yno hefyd.
Ar ôl Rhyfeloedd Groeg a Phersia, daeth Delos yn fan cyfarfod Cynghrair Delos, a sefydlwyd yn 478 CC, a chedwid trysorfa'r gynghrair yma hyd 454 CC pan y'i symudwyd i Athen gan Pericles. Ers 1873 mae'r Ecole Française d'Athenes wedi bod yn cloddio yma, a gwnaed nifer fawr o ddarganfyddiadau. Yn 1990 cyhoeddwyd Delos yn Safle Treftadaeth y Byd.