Crynwriaeth yng Nghymru
Oddi ar Wicipedia
Ymwreiddiodd Crynwriaeth yng Nghymru ar ddechrau'r 1660au. Er iddynt ostwng mewn niferoedd a dylanwad ar ôl yr 17eg ganrif, mae Crynwyr Cymru wedi chwarae rhan fwy pwysig yn hanes Cymru nag y mae eu nifer yn awgrymu ac mae eu mudiad, Cymdeithas Grefyddol Cyfeillion (Religious Society of Friends) yn dal yn weithgar heddiw.
Y Sais George Fox (1624-1691) a sefydlodd Crynwriaeth a Cymdeithas Grefyddol Cyfeillion yn Lloegr. Un o'i ddisgyblion cynnar oedd y Bedyddiwr Rice Jones, Cymro yn byw yn Nottingham. Roedd y llenor Morgan Llwyd o Wynedd a'i gyd-Biwritan Vavasor Powell yn agored i neges y Cynwyr hefyd, a diau fod eu gwaith cenhadol ym Meirionnydd (Llwyd) a Maldwyn (Powell) yn gyfrifol am y ffaith mai yn yr ardaloedd hynny yn bennaf y dygodd Crynwriaeth ffrwyth yn ail hanner yr 17eg ganrif.
Mae Crynwyr nodedig o'r cyfnod hwnnw yng Nghymru yn cynnwys Richard Davies o'r Cloddiau Cochion, Rowland Ellis ac Ellis Puw. Ymfudodd nifer o Grynwyr y wlad i dalaith newydd Pennsylvania ar ddiwedd y ganrif. Ar un adeg bu ganddynt y bwraid o sefydlu gwladfa Gymraeg yno a'i galw yn Gymru Newydd, ond er bod y Cymro Thomas Lloyd yn ddirprwy lywodraethwr dan William Penn ac yn gefnogol i'r syniad, ni wireddwyd y cynllun.
Gwanhaodd achos y Crynwyr yng Nghymru yn y 18fed ganrif, er i gymdeithasau o Grynwyr dal i gyfarfod mewn rhai ardaloedd, yn bennaf yn y de-ddwyrain (e.e. Caerdydd, Castell-nedd ac Abertawe).
Cafwyd adfywiad yn y ganrif olynol. Roedd Crynwyr amlwg y cyfnod yn cynnwys Joseph Tregelles Price, brodor o Gernyw a symudodd i Gymru lle daeth yn berchennog Gwaith Haearn Abaty Nedd. Ysgrifennodd ei nai Elijah Waring fywgraffiad o Iolo Morgannwg.
Yn yr 20fed ganrif bu gan y Crynwyr ran amlwg yn y mudiadau heddwch yng Nghymru. Troes y bardd Waldo Williams yn Grynwr a gwrthwynebodd dalu rhan o'i drethi mewn protest yn arbyn arfogi. Crynwr arall a fu'n weithgar yn y mudiadau heddwch oedd George M. Ll. Davies, cyfaill Tom Nefyn.
Mae hanes Crynwyr Cymru yn gefndir rhai o nofelau'r nofelydd Marion Eames.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Richard Jones, Crynwyr Bore Cymru (1931)
- J. M. Rees, History of the Quakers in Wales (1925)