Waldo Williams
Oddi ar Wicipedia
Un o feirdd mwyaf Cymru'r ugeinfed ganrif oedd Waldo Williams (30 Medi 1904 - 20 Mai 1971), ond hefyd yr oedd yn heddychwr, yn Grynwr, yn genedlaetholwr ac yn sosialydd. Un o'i gerddi enwocaf yw 'Mewn Dau Gae'.
Cafodd ei eni yn Hwlffordd, ac yr oedd yn saith oed yn dysgu Cymraeg pan symudodd y teulu i Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, 1911 - 1915 lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd.
Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yr oedd yn teimlo mor gryf yn erbyn Rhyfel Corea nes iddo wrthod talu'r dreth incwm, ac fe'i carcharwyd am hynny ddechrau y 1960au.
Safodd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1959.
Mae heddwch a brawdgarwch yn britho ei farddoniaeth.
Mae carreg goffa i Waldo ar y comin ger Mynachlog-ddu.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith Waldo
- Cofio (cyfres Y Ford Gron)
- Dail Pren (1956)
- Cerddi'r Plant (1970), ar y cyd ag E. Llwyd Williams
- Rhyfel a'r Wladwriaeth - erthygl yn Y Faner (1956)
- Old Farm House Cyfieithiad o Hen Dy Ffarm D.J. Williams
[golygu] Astudiaethau
- 'Cyfres y Meistri': Waldo Williams (1981) golygydd Robert Rhys, Gwasg Christopher Davies
- Cyfres 'Bro a Bywyd': Waldo Williams (1996) golygydd James Nicholas, Cyhoeddiadau Barddas
- Cyfres 'Llên y Llenor': Waldo Williams (1985) gan Ned Thomas