See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Rhyfel Corea - Wicipedia

Rhyfel Corea

Oddi ar Wicipedia

Ymladd rhwng milwyr yr Unol Daleithiau a milwyr Gogledd Corea yn Seoul, 1950.
Ymladd rhwng milwyr yr Unol Daleithiau a milwyr Gogledd Corea yn Seoul, 1950.
Newidiadau yn y diriogaeth a reolid gan y ddwy ochr yn ystod y rhyfel.
Newidiadau yn y diriogaeth a reolid gan y ddwy ochr yn ystod y rhyfel.

Rhyfel rhwng De Corea dan Syngman Rhee gyda chefnogaeth milwyr o nifer o wledydd gorllewinol a Gogledd Corea dan Kim Il-Sung gyda chefnogaeth milwyr o China oedd Rhyfel Corea.

Dechreuodd y rhyfel fel ysgarmesoedd ar y ffîn rhwng y de a'r gogledd. Cynhalwyd etholiadau yn Ne Corea ym mis Mai 1950. Ni wnaeth cefnogwyr y gogledd yn dda, a mynnodd Gogledd Corea fod yr etholiadau yn cael eu hail-gynnal Gwrthododd y de, ac ar 25 Mehefin, 1950 symudodd milwyr Gogledd Corea tua'r de i geisio ad-uno'r wlad. Parhaodd yr ymladd hyd y cadoediad ar 27 Gorffennaf, 1953.

Cafodd byddin y gogledd lwyddiannau buan, a gorfodwyd milwyr De Corea i encilio. Meddiannwyd dinas Seoul gan fyddin Gogledd Corea ar 28 Mehefin. Pasiwyd penderfyniad yn y Cenhedloedd Unedig yn galw ar Ogledd Corea i encilio o'r de. Ar y pryd, roedd yr Undeb Sofietaidd wedi penderfynu peidio cymeryd rhan yn y Cenhedloedd Unedig, felly ni allent atal penderfyniad i roi cymorth milwrol i Dde Corea. Milwyr yr Unol Daleithiau oedd y garfan fwyaf a gymerodd ran yn y rhyfel, ond gyffwyd milwyr hefyd gan y Deyrnas Unedig,Canada, Awstralia, Seland Newydd, Ffrainc, De Affrica, Twrci, Thailand, Groeg, yr Iseldiroedd, Ethiopia, Colombia, y Ffilipinau, Gwlad Belg, a Lwcsembourg.

Ar y cyntaf, nid oedd y nifer o filwyr yr Unol Daleithiau yn fawr, a gorchfygwyd hwy yn Osan ar 5 Gorffennaf. Erbyn mis Awst, dim ond tiriogaeth fechan yn y de-ddwyrain o gwmpas Pusan oedd ym meddiant y de. Llwyddasant i gadw gafael ar Pusan wedi brwydro caled. Cyhhaeddodd mwy o filwyr y Cenhedloedd Unedig, a bu bomio trwm gan awyrennau'r Unol Daleithiau. Gwrthymosodwyd ar 15 Medi gyda glaniad yn Inchon, a chipiwyd Seoul yn ôl. Bu raid i filwyr y gogledd encilio, a symudodd lluoedd y de a'r Cenhedloedd Unedig ymlaen i'r gogledd, gyda'r bwriad o uno Corea i gyd dan lywodraeth Syngman Rhee.

Wrth iddynt ddynesu at ffîn China, rhybuddiodd llywodraeth China hwy y byddai'n cymeryd rhan yn y rhyfel. Ar 19 Hydref symudodd milwyr China tua'r ffîn, ac ar 1 Tachwedd, 1950 daethant i wrthdrawiad a lluoedd yr Unol Daleithiau. Gorfodwyd milwyr De Corea a'r Unol Daleithiau i encilio tua'r de. Ar 4 Ionawr 1951 cipiwyd Seoul gan fyddin China. Ail-feddiannwyd y ddinas gan yr Unol Daleithiau ar 14 Mawrth. Fesul tipyn, gyrrwyd y comiwnyddion yn ôl tua'r ffîn rhwng Gogledd a De Corea.

O Hydref 1951 hyd fis Gorffennaf 1953 parhaodd yr ymladd heb lawer o newid o ran y diriogaeth ym meddiant y ddwy ochr. Parhaodd trafodaethau heddwch am ddwy flynedd, yn Kaesong ac yna yn Panmunjon. Cytunwyd i gadoediad ar 27 Gorffennaf, 1953.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -