Awstralia
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Dim (Advance Australia yn flaenorol) | |||||
Anthem: Advance Australia Fair Anthem frenhinol: God Save the Queen |
|||||
Prifddinas | Canberra | ||||
Dinas fwyaf | Sydney | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg1 | ||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol ffederal | ||||
- Brenhines | Elisabeth II |
||||
- Llywodraethwr Cyffredinol | Michael Jeffery |
||||
- Prif Weinidog | Kevin Rudd |
||||
Annibyniaeth - Cyfansoddiad - Statud San Steffan - Deddf Awstralia |
O'r Deyrnas Unedig 1 Ionawr 1901 11 Rhagfyr 1931 3 Mawrth 1986 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
7,741,220 km² (6ed) 1 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
20,555,300 (53) 18,972,350 2.6/km² (224fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2006 $674.9 biliwn (17eg) $30,897 (14eg) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.955 (3ydd) – uchel | ||||
Arian cyfred | Doler Awstralaidd (AUD ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
nifer2 (UTC+8–+10) nifer2 (UTC+8–+11) |
||||
Côd ISO y wlad | .au | ||||
Côd ffôn | +61 |
||||
1 Dim yn swyddogol. 2 Gweler Amser yn Awstralia |
Cymanwlad Awstralia neu Awstralia yw'r chweched wlad fwyaf yn y byd yn ddaearyddol a'r unig un sydd yn gyfandir cyfan. Mae'n cynnwys yr ynys Tasmania, sydd yn dalaith o'r wlad. Gwledydd cyfagos yw Seland Newydd sydd i'r de ddwyrain o Awstralia, ac Indonesia, Papiwa Gini Newydd a Dwyrain Timor i'r gogledd. Tarddiad yr enw "Awstralia" yw'r Lladin terra australis incognita ("Y tir na ŵyr neb amdano").
[golygu] Hanes
Cyfaneddwyd y cyfandir am dros 40,000 o flynyddoedd gan frodorion Awstralia cyn i Loegr hawlio'r rhan ddwyreiniol o'r cyfandir yn 1770 a daeth yn dir i anfon drwgweithredwyr o'r famwlad iddo. Alltudiwyd rhyw 1800 ohonynt o Gymru erbyn 1852, rhyw 300 yn ferched. Yn eu plith roedd arweinwyr y Siartwyr, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, a Lewsyn yr Heliwr a fu a rhan yn nherfysgoedd Merthyr.