Baner Awstralia
Oddi ar Wicipedia
Mae gan faner Awstralia Jac yr Undeb yn y canton (sy'n cofio cysylltiadau trefedigaethol y wlad â Phrydain) a phump seren wen – i gynrychioli'r cytser Crux (y Groes Ddeheuol) fel mae'n ymddangos o Awstralia – a seren wen fwy ar wahân, ar faes glas. Mae gan bob un o sêr y groes saith pwynt, ar wahân i'r un lleiaf (Epsilon Crucis) sydd â phump. O dan Jac yr Undeb mae seren fawr (Seren y Gymanwlad) i gynrychioli aelodau'r ffederasiwn. Yn wreiddiol, bu chwe phwynt ar gyfer y chwe thalaith ffederal; ychwanegwyd y seithfed pwynt yn 1909 i gynrychioli'r Diriogaeth Ogleddol.
[golygu] Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Awstralia |
Awstralia · Ynysoedd Cocos · Ynys y Nadolig · Ynys Norfolk |
|
Caledonia Newydd · Fanwatw · Fiji · Papwa Gini Newydd · Ynysoedd Solomon |
||
Gwâm · Kiribati · Ynysoedd Gogledd Mariana · Ynysoedd Marshall · Taleithiau Ffederal Micronesia · Nawrw · Palaw |
||
Ynysoedd Cook · Niue · Ynysoedd Pitcairn · Polynesia Ffrengig · Samoa · Samoa Americanaidd · Seland Newydd · Tokelau · Tonga · Twfalw · Wallis a Futuna |