Caerdydd
Oddi ar Wicipedia
Dinas Caerdydd | |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Statws: | Dinas (1905) |
Pencadlys: | Caerdydd |
Arwynebedd: | 140 km² |
Cód ONS: | 12PT |
ISO 3166-2: | GB-CRF |
Demograffeg | |
Poblogaeth (2001) | 305,353 2,181 / km² |
Gwleidyddiaeth | |
www.caerdydd.gov.uk | |
Gweithgor: | Dim rheolaeth gyffredinol |
AS: | Kevin Brennan |
Caerdydd (Saesneg: Cardiff) yw dinas fwyaf a phrifddinas Cymru. Roedd Caerdydd yn dref fechan tan flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn arbennig pan gysylltwyd y cymoedd â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o'r porthladd. Yn 1851 'roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.
Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr.Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerdydd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
[golygu] Cestyll
- Castell Caerdydd
- Castell Coch
- Castell Sain Ffagan
[golygu] Ardaloedd
Mae gan Caerdydd nifer fawr o faestrefi yn ei hamgylchynu. Mae'r rhain yn cynnwys:
Y Rhath, Llandaf, Yr Eglwys Newydd, Llaneirwg, Y Mynydd Bychan, Treganna, Pen y Lan, Rhiwbeina, Y Sblot.
[golygu] Trafnidiaeth
Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus yn y ddinas yn cael eu rhedeg gan Bws Caerdydd y Trenau Arriva Cymru. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys wyth llinellau reilfford i Faesteg, Fro Morgannwg a Faes Awyr Caerdydd, Dreherbert, Ferhtyr Tydfil ac Aberdâr, Goryton, Rhymni, a Fae Caerdydd. Mae gan y ddinas 22 gorsafau fel y Gorsaf Caerdydd Canolog a Caerdydd Heol Y Frenhines. Mae nhw'n yn y ganol y ddinas.
Mae'r Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn y Bro Morgannwg.
[golygu] Pobol o Gaerdydd
- Pino Palladino
- Dannie Abse
- Leo Abse
- Wilfred Abse
- Jeremy Bowen
- Shirley Bassey
- Dave Burns
- Owen John Thomas
- Charlotte Church
- Gillian Clarke
- Roald Dahl
- Reuben Pengelly
- Dave Edmunds
- Ryan Giggs
- Ioan Gruffudd
- Frank Hennessy
- John Humphrys
- Colin Jackson
- Bobi Jones
- Griff Rhys Jones
- Rob Lacey
- Shelley Jones
- Donna Lewis
- Lorna Morgan
- Rhodri Morgan
- Terry Nation
- Ivor Novello
- Edward V. Robertson
- Jon Ronson
- Clive Sullivan
- Shakin' Stevens
- John Toshack
- Lewis Shane
- Rebecca Scott
- Craig Bellamy
- Ken Follett
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym 1883, 1899, 1938, 1960 a 1978. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1883
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1899
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1960
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978
[golygu] Gefeilldrefi
[golygu] Dolenni allanol
- Cyngor Caerdydd
- Prifysgol Caerdydd
- Menter Caerdydd Menter Iaith y ddinas
Siroedd a Dinasoedd Cymru | |
Dinasoedd, Bwrdreisdrefi a Siroedd gweinyddol ers 1996 |
|
|
---|---|
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Tyddewi |