Yr Eglwys Newydd
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Eglwys Newydd (Saesneg Whitchurch) yn un o faestrefi hynaf Caerdydd. Lleolir tua 3 milltir i'r gogledd o ganol y dref ar bwys y ffordd A470 a'r A4054. Roedd poblogaeth o 15,649 yn 2004. Mae'r faesdref yn ran o ward Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais.
[golygu] Hanes
Mae'r cyfanned yn ddyddio'n ôl i'r 12fed ganrif, pan sefydlwyd eglwys Santes Fair gan offeiriad o Egwlys Gadeiriol Llandaf. Yr enw cynnaraf a wyddwn amdano oedd Ystum Taf (neu Stuntaf yn Saesneg).
Dim ond tua 300 o bobl oedd yn byw yno ar droad yr 18fed ganrif, erbyd diwedd yr 19eg ganrif roedd y boblogaeth wedi codi'n aruthrol i 5,000. Ffurfwyn Cyngor Plwyf yr Eglwys Newydd yn 1845. Rhwng 1951 a 1961, cododd y boblogaeth o 19,827 i 27,325. Llyncwyd rhanfwyaf o'r plwyf (heblaw Tongwynlais) yn ran o ddinas Caerdydd erbyn 1967.