Prifddinas
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas yw'r ddinas sy'n brif ganolfan llywodraeth mewn gwlad. Lleolir swyddfeydd y llywodraeth yno, a chynhelir chyfarfodydd y senedd a'r llywodraeth yno hefyd. Caerdydd yw prifddinas Cymru. Yn yr Unol Daleithiau, Washington, D.C. yw'r brifddinas, ac mae Llundain yn brifddinas i'r Deyrnas Unedig a Lloegr.
Mae gan pob wlad yn y byd brifddinas; mae gan rai (er enghraifft, yr Iseldiroedd) fwy nag un. Yn aml, canolfan economaidd y wlad yw'r brifddinas hefyd. Enghreifftiau yw Paris yn Ffrainc a Moskva yn Rwsia. Mewn llawer o achosion, y brifddinas yw dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth, ond mae yna eithriadau, megis India, China, Brasil ac Awstralia. Weithiau dewisir prifddinas newydd y tu allan i ardaloedd mwyaf poblog er mwyn osgoi datblygiad pellach yn yr ardaloedd hynny (gweler y map isod). Mae dinasoedd Brasilia ym Mrasil a Canberra yn Awstralia wedi'u cynllunio'n fwriadol fel prifddinasoedd newydd.