Rowland Ellis
Oddi ar Wicipedia
Crynwr blaenllaw oedd Rowland Ellis (1650 - Medi 1731). Ganed ef yn ffermdy Bryn Mawr, plwyf Dolgellau. Ymunodd â'r Crynwyr tua1672, a chafodd ei garcharu nifer o weithiau.
Ymfudodd i Pennsylvania yn 1686, ac ymsefydlodd yn Bryn Mawr (Lower Merion yn ddiweddarach). Dychwelodd y Gymru am gyfnod yn 1688, cyn dychwelyd i Pennsylvania gyda rhagor o'i deulu.
Cyfieithodd lyfr Ellis Pugh Annerch i'r Cymru (1721) i'r Saesneg, a chyhoeddwyd ef yn Philadelphia yn 1727 fel A Salutation to the Britains. Bu farw yn gynnar ym mis Medi 1731 a chladdwyd ef ym mynwent y Crynwyr yn Plymouth, Pennsylvania.
Enwyd tref Bryn Mawr, Pennsylvania a'r Bryn Mawr College for Women yn Pennsylvania ar ôl tŷ Rowland Ellis ger Dolgellau.
[golygu] Cymeriad Ellis yn nofelau Marion Eames
Ar dechrau’r nofel Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames, gwelwn Rowland fel gymeriad cyfoethog. Bonheddwr yw Rowland Ellis sy’n dod ar draws fel chymeriad caredig. Rydym yn dysgu fod ganddo cariad o enw Meg (merch brydferth iawn) Mae o’n ffyddlon ac yn gariadus iawn iddi. Lleoliad agoriad y nofel yw ffair y werin lle welwn pawb yn dawnsio, yn canu, ac yn joio. Cawn awyrgylch hapus yma, ond maent yn cael ei dymchwyl gan newid yn yr olygfa – boddi gwrach. Nid ydy Rowland Ellis, fel pob werin arall, yn fwynhau weld hogyn diniwed yn cael ei boddi’n rhwystrus. “ Clywodd Rowland ei galon yn suddo. Cas ganddo’r hen arferion hyn pan droi sbort yn rhywbeth dychrynllyd, cyntefig.”Poen meddwl Rowland Ellis yn sgil digwyddiadau’r diwrnod.”