Castell Newydd Emlyn
Oddi ar Wicipedia
Castell Newydd Emlyn Sir Gaerfyrddin |
|
Mae Castell Newydd Emlyn (neu Castell Newi fel y gelwir yn lleol) yn dref farchnad yng Ngogledd-Orllewin Sir Gaerfyrddin. Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi. Weithiau ystyrir pentref Adpar, ar y lan ogleddol yng Ngheredigion, yn ran o'r dref hefyd, er bod gan Adpar hanes hir fel hen fwrdeistref o fewn Ceredigion.
[golygu] Hanes
Safai Castell Newydd Emlyn yng nghantref Emlyn, ac fe'i henwir ar ôl y cantref hwnnw. Adeiladwyd y castell, sydd nawr yn adfeilion, gan y Normaniaid.
Ymwelodd Gerallt Gymro ag Emlyn yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Bellach, mae Castell Newydd Emlyn yn dref farchnad brysur.
[golygu] Y Gymraeg
Hyd at y 1960au, yr oedd ymhell dros 90% o boblogaeth Castell Newydd Emlyn yn Gymry Cymraeg a'r Gymraeg oedd iaith gwaith ac aelwyd yn y dref. Ond fel mewn sawl rhan arall o'r wlad cafwyd mewnlifiaid sylweddol o bobl o'r tua allan i Gymru, Saeson yn bennaf, ac mae sefyllfa'r iaith wedi dirywio mewn canlyniad. Er hynny, erys y Gymraeg yn iaith y mwyafrif, sef tua 69% o'r boblogaeth o 941, ac fe'i siaredir gan 90% o'r bobl yno a anwyd yng Nghymru (Cyfrifiad 2001).
[golygu] Economi
Mae ffatri gaws yn y dref yn un o'r cynhyrchwyr mwyaf o gaws mozzarella ym Mhrydain.