Pentywyn
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Pentywyn (Saesneg: Pendine). Saif ger y môr i'r de-orllewin o Sanclêr, ac heb fod ymhell o'r ffin a Sir Benfro.
Mae dwy ran i'r pentref; yr hen bentref ar fryn o gwmpas yr eglwys a'r tai o gwmpas yr harbwr, sydd wedi tyfu'n ganolfan ymwelwyr ar raddfa fechan. Ar un adeg roedd Traeth Pentwyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgeisiau i dorri record cyflymdra ar dir y byd. Rhwng 1924 a 1927 torrwyd y record bum gwaith yma gan Malcolm Campbell a'r Cymro J. G. Parry-Thomas. Lladdwyd Parry-Thomas yma yn 1927 wrth geisio torri'r record eto yn ei gar Babs. Claddwyd Babs yn y tywod ar ôl y ddamwain, ac wedi iddo gael ei adfer mae yn awr i'w weld yn yr amgueddfa yn y pentref.
Erbyn hyn, ni chaniateir ceir ar y traeth.
[golygu] Cysylltiad allanol