Llanymddyfri
Oddi ar Wicipedia
Llanymddyfri Sir Gaerfyrddin |
|
Tref farchnad yn ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Llanymddyfri (Saesneg Llandovery). Saif y dref ar lan Afon Tywi lle mae'r priffyrdd A40 ac A483 yn cyfarfod.
Mae Capel Coffa William Williams (Pantycelyn) yn y dref; mae ef wedi ei gladdu yn Llanfair-ar-y-bryn gerllaw. Yma hefyd mae ysgol breswyl beifat Coleg Llanymddyfri.
[golygu] Hanes
Adeiladwyd Castell Llanymddyfri gan y Normaniaid yn 1110, ond cipiwyd ef gan y Cymry cron yn syth. Newidiodd ddwylo nifer o weithiau yn y ganrif a hanner nesaf. Yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, defnyddiwyd y castell gan Harri IV, brenin Lloegr, a ddienyddiodd Llywelyn ap Gruffudd Fychan yn y dref. Ymosododd byddin Glyndŵr ar y castell yn 1403, ac mae wedi bod yn adfail ers hynny.
Roedd Rhys Prichard ("Yr Hen Ficer") yn enedigol o Lanymddyfri ac yn ficer yma. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du gan borthmon lleol yn Llanymddyfri yn 1799.
[golygu] Gefeilldrefi