Saeson
Oddi ar Wicipedia
Saeson | |
---|---|
Cyfanswm poblogaeth | 90 miliwn |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
DU: 45 miliwn
Yr Unol Daleithiau: 28 miliwn Canada: 6 miliwn Awstralia: 6 miliwn |
|
Ieithoedd | Saesneg |
Crefyddau | Cristnogaeth, arall, dim |
Grwpiau ethnig perthynol | Americaniaid, Canadiaid, Awstraliaid, a phobloedd Saesneg eraill. Hefyd Ffrisiaid, Iseldirwyr, Almaenwyr, Llychlynwyr |
Y Saeson yw'r grŵp ethnig a chenedl a gysylltir a Lloegr yn bennaf, er fod nifer sylweddol ohonynt yn byw mewn gwledydd eraill hefyd.
Mae'r enw "Saeson" yn Gymraeg yn dod o enw llwyth y Sacsoniaid. Ond dim ond un o sawl llwyth o bobl Germanaidd a ddaeth i Brydain o ddiwedd y 5ed ganrif ymlaen oedd y Sacsoniaid. Gyda'r llwythau eraill fe'i elwir yn Eingl-Sacsoniaid gan haneswyr. Mae'r gair 'Eingl-Sacsonaidd' yn dal i gael ei ddefnyddio yn yr iaith Saesneg fel ansoddair cyfystyr â 'Seisnig' neu 'Saesneg', e.e. the Anglo-Saxon world am y gwledydd lle siaredir Saesneg. Defnyddir yr elfen arall yn y gair hwnnw, sef 'Eingl' (enw llwyth arall), i gyfeirio at Loegr a phethau Seisnig hefyd. Mae'n cael ei ymestyn yn aml yn Saesneg i gyfeirio at Brydain ei hun. e.e. mae'n arfer sôn am Anglo-French yn y cyfryngau Saesneg wrth gyfeirio at Brydain a Ffrainc. Daw'r gair English o'r enw Eingl/Angle.
Yng Nghymru, defnyddir y term 'Saeson' yn yr iaith lafar yn aml i gyfeirio at bobl Saesneg eu iaith, neu ddi-Gymraeg, yn hytrach na phobl sy'n dod yn benodol o Loegr. Ond mae rhai pobl yn meddwl bod hyn yn sarhaus, fel dweud ei bod hi'n amhosib i fod yn Gymro/-aes go iawn heb fedru siarad y Gymraeg. Er hynny, ceir enghraifft gynnar iawn o 'Sais' fel ansoddair yn yr ystyr "rhywun sy'n medru siarad Saesneg" yn llysenw'r bardd Elidir Sais (fl. cyfnod Llywelyn Fawr).