Aled Wyn Davies
Oddi ar Wicipedia
Aled Wyn Davies | |
---|---|
Clawr CD Nodau Aur Fy Nghân | |
Gwybodaeth Cefndirol | |
Ganwyd | 3 Awst 1974 (33 oed) |
Lle Geni | Llanbrynmair, Powys |
Galwedigaeth(au) | Ffermwr |
Label(i) Recordio | Sain |
Gwefan | aledwyndavies.com |
Tenor Cymraeg ydy Aled Wyn Davies (ganwyd 3 Awst 1974) o Llanbrynmair, ym Maldwyn, Powys. Dechreuodd ei yrfa fel canwr gwerin ond erbyn hyn yn unawdydd clasurol sy'n teithio'r byd yn ogystal ac amaethu o ddydd y ddydd ar y fferm deuluol gartref.[1]
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bywgraffiad
Cychwynnodd gyrfa Aled Wyn Davies fel canwr gwerin ond ar ôl ennill y prif wobrau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dechreuodd dorri ei gwys ei hun fel tenor. Erbyn hyn, mae wedi ymddangos ar lwyfannau, radio a theledu.
Mae wedi ennil yr unawd tenor deirgwaith yn olynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004, 2005 a 2006, ac yna, yn 2006, cipiodd y Rhuban Glas ym Mhrifwyl Abertawe.
Fo oedd "Canwr y Flwyddyn" yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, 2005 a'r ennillydd y Rhuban Glas yng Ngŵyl Fawr Aberteifi yn 2006. Yn 2005 cafodd gyfle gan hyrwyddwr cyngherddau clasurol "Raymond Gubbay Ltd." i berfformio mewn cyngherddau Last Night of the Proms gan ganu mewn rhai o brif neuaddau Lloegr megis y Symphony Hall, Birmingham a'r Bridgewater Hall, Manceinion. Ym mis Awst 2007, cafodd wahoddiad gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru i berfformio yn un o gyngherddau'r wyl, gan rannu llwyfan gyda Chôr yr Eisteddfod, Iona Jones, Iwan Wyn Parry ac Ensemble Cymru mewn noson o waith Oratorio.
Yn y 90au crwydrodd Aled y wlad pan fu'n rhan o'r grŵp poblogaidd Traed dan Bwrdd yn cymeryd rhan mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Trafeiliodd y grŵp dramor yn 2001 pan ddaeth gwahoddiad i berfformio mewn pum cyngerdd yng Ngwlad y Basg. Bu Aled hefyd yn aelod o Gwmni Theatr Maldwyn. Treuliodd amser fel un o'r corws i ddechrau, ac yna yn 2003 yn y sioe Ann! chwaraeodd un o'r rhannau blaenllaw, sef John Hughes, ffrind Ann Griffiths, Dolwar Fach.
Canodd ym mhrif neuaddau Seland Newydd ac Awstralia pan ymunodd â Chôr Godre'r Aran fel eu hunawdydd gwadd ar eu taith gerddorol yn 2003. Mae wedi canu ddwywaith yng nghyngherddau Gŵyl Ddewi Capel Cymraeg Los Angeles ac yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae wedi perfformio ar fordeithiau i'r cwmni Swan Hellenic. Ym mis Tachwedd 2007 treuliodd dair wythnos yn yr Ariannin a Brasil pan fu'n unawdydd gwadd i Gôr Godre'r Aran mewn taith gerddorol i Batagonia.
Yng ngwanwyn 2008 perfformiodd Aled mewn cyngherddau Gŵyl Ddewi yn Ne Affrica gyda Chôr Meibion Cymru De Affrica.
Ym mis Awst 2008 bydd yn Unawdydd Gwadd yng Nghymanfa Ganu Gogledd America sydd yn cael ei chynnal eleni yn Chicago, UDA.
[golygu] Disgograffi
- Ann!, (Cwmni Theatr Maldwyn), Gorffennaf 2004 (Sain)
- Nodau Aur Fy Nghân, 12 Chwefror 2007 (Sain)
[golygu] Gwobrau ac Anrhydeddau
- 1af Unawd Alaw Werin Agored - Yr Ŵyl Gerdd Dant Cymru, Aberystwyth 1998
- 1af Unawd Canu Gwerin draddodiadol - Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 1999
- Unawdydd yr Eisteddfod - Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Y Drenewydd 1999
- Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001
- Unawdydd 2001 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001
- Gwisg Werdd er Anrhydedd yng Ngorsedd y Beirdd - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002
- 1af Unawd Tenor dros 25ain oed - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004
- Unawdydd y Flwyddyn - Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2005
- 1af Unawd Tenor dros 25ain oed - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005
- 1af Unawd Gymraeg, 1af Unawd Oratorio, 1af Unawd allan o Sioe Gerdd, 1af Her Unawd Agored - Eisteddfod Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan 2005
- Rhuban Glas ac Unawdydd yr Eisteddfod - Gwyl Fawr Aberteifi 2006
- 1af Unawd Tenor dros 25ain oed - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006
- Gwobr Goffa David Ellis -Y Rhuban Glas - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006.
[golygu] Dolenni Allanol
- aledwyndavies.com
- Gwrandewch ar Aled ar Myspace Music
- Lluniau Diweddaraf o Aled Wyn Davies
- Llun o Aled Wyn Davies yn Llanfair Caerenion 5 Mai 2007
- Llun o Aled Wyn Davies yn Eisteddfod 2005