Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Oddi ar Wicipedia
Cynhelir Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn Llangollen yn yr haf am wythnos bob blwyddyn, gan ddechrau fel rheol ar ddydd Mawrth a gorffen ar y Sul.
Yn ystod yr wythnos mae pobl o bob cwrdd o'r byd yn mynd yno i gystadlu yn y cystadleuthau cerddoriaeth a dawns. Ceir cystadleuwyr o tua hanner cant o wledydd yn cymryd rhan.
Cynhelir gorymdaith liwgar ar ddechrau'r wythnos, gyda cystadleuwyr yn eu gwisg genedlaethol neu draddodiadol, a cheir dawnsio a chanu a chwarae cerddoriaeth gwerin o bob math tra'n cerdded trwy strydoedd Llangollen.
Mae yr eisteddfod wedi rhoi cychwyn i yrfaoedd nifer o berfformwyr a ddaeth yn enwog yn ddiuweddarach; er enghraifft dywedodd Luciano Pavarotti mai perfformio yma gyda chôr o Modena a roddodd ysgogiad iddo i ddod yn ganwr proffesiynol.
[golygu] Dolen allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol