Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006
Oddi ar Wicipedia
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006 ar hen safle Gwaith Dur Felindre ychydig oddi ar draffordd yr M4. Ymhlith pynciau llosg yr Eisteddfod oedd y penderfyniad i ddileu seremoni'r Cymru a'r Byd a bu cryn dipyn o feirniadu hefyd ar wyneb carregog y maes. Roedd y pafiliwn yn un pinc llachar yn wahanol i'r un arferol o streipiau glas a melyn. Roedd wedi ei gynllunio ar gyfer un o ymgyrchoedd elusen Gofal Cancr y Fron a chytunodd yr Eisteddfod i'w gael yn lle'r un arferol.
Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol Archesgob Caergaint Y Parchedicaf Dr Rowan Williams a anerchodd y gynulleidfa yng ngwasanaeth agoriadol yr Eisteddfod fore Sul. Mae Rowan Williams yn hannu o Abertawe.
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Tonnau | Gwenno | Gwynfor ab Ifor |
Y Goron | Fflam | Gwyfyn | Eigra Lewis Roberts |
Y Fedal Ryddiaith | Atyniad | Matigari | Fflur Dafydd |
Gwobr Goffa Daniel Owen | Dygwyn Eneidiau | Ebolion | Gwen Pritchard Jones |
Tlws y Cerddor | Dadeni | Johannes | Euron J. Walters |
Enillydd y gadair oedd Gwynfor ab Ifor o Sling ger Tregarth ar y thema Tonnau. Roedd yn derbyn hefyd wobr ariannol o £750.00. Dyluniwyd y gadair gan Elonwy Riley o Lansawel, Llandeilo ac fe'i gwnaethpwyd gan Tony Graham a Paul Norrington yng Ngholeg Sir Gâr. Enillydd o goron oedd Eigra Lewis Roberts am ei gwaith Y Ffarwel Perffaith a oedd am fywyd cythryblus Sylvia Plath.Y beirniaid oedd Menna Elfyn, Damian Walford Davies a Gwyneth Lewis. Roedd y goron wedi ei chyflwyno er cof am y cyn-Archdderwydd, Dafydd Rowlands. Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Fflur Dafydd o Gaerfyrddin am ei gwaith Atyniad.Y beirniaid oedd Derec Llwyd Morgan, Jane Aaron a Grahame Davies. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Gwen Pritchard Jones o Bant Glas. Dyma ei nofel gyntaf i oedolion. Enillydd Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn oedd Stuart Imm o Gwmbrân ac sydd bellach yn diwtor Cymraeg.
[golygu] Ffynhonnellau
- Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006, ISBN 1 84323 765 2
- Gwefan swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- Tudalen Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006 ar wefan y BBC