Albanwyr
Oddi ar Wicipedia
Albanwyr | |
---|---|
Cyfanswm poblogaeth | 30–40 miliwn |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
Yr Alban: 4 459 071
Yr Unol Daleithiau: 5 752 571 Canada: 4 157 210 Lloegr: 795 000 Awstralia: 540 046 |
|
Ieithoedd | Gaeleg yr Alban, Sgoteg, Saesneg |
Crefyddau | Cristnogaeth, arall, dim |
Grwpiau ethnig perthynol | Gwyddelod, Manawyr, Saeson, Cernywiaid, Cymry, Llydawyr, Islandwyr, Ffarowyr |
Pobl o'r Alban neu sydd o dras Albanaidd yw'r Albanwyr neu'r Sgotiaid.
[golygu] Y Sgotiaid gwreiddiol
Yn wreiddiol cyfyngid y defnydd o'r enw Sgotiaid i'r Gwyddelod a ddaeth drosodd o Iwerddon i ymgartrefu yng nghanolbarth a gorllewin yr Alban. Y Scotti oedd eu henw a siaradent Wyddeleg. Eu cymdogion oedd y Brythoniaid i'r de a'r Pictiaid i'r gogledd a'r dwyrain. Dim ond tua'r flwyddyn 850 y cawsant eu huno'n un deyrnas gan y brenin Kenneth mac Alpin. Rywbryd ar ôl hynny y dechreuodd yr arfer o alw pobl y wlad yn Albanwyr neu 'Scots'.
[golygu] Albanwyr enwog
- Kenneth mac Alpin, brenin cyntaf yr Alban unedig
- William Wallace, gwrthryfelwr ac arwr cenedlaethol
- Robert I, brenin yr Alban
- Robert Burns, bardd
- Charles Edward Stuart, "Bonnie Prince Charlie"
- Flora MacDonald
- Sean Connery, actor