Gaeleg yr Alban
Oddi ar Wicipedia
Gaeleg (Gàidhlig) | |
---|---|
Siaredir yn: | Yr Alban, Canada |
Parth: | |
Siaradwyr iaith gyntaf: | 58,652 (Yr Alban) 500-1000 (Nova Scotia) |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | Dim yn y 100 uchaf |
Achrestr ieithyddol: | Indo Ewropeaidd Celteg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Yr Alban |
Rheolir gan: | Bòrd na Gàidhlig |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | gd |
ISO 639-2 | gla |
ISO 639-3 | gla |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Mae Gaeleg yr Alban (Gaeleg: Gàidhlig) yn un o'r chwe iaith Geltaidd. Mae'n un o'r tair iaith Oideleg, gyda Gwyddeleg a Manaweg.
Mae tua 60,000 o bobl yn yr Alban yn siarad Gaeleg heddiw, gyda chanran sylweddol yn byw yn y Gàidhealtachd.
Gaeleg oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban, ond o'r bymthegfed ganrif ymlaen collodd ei statws i fath o Saesneg a ddatblygodd yn Sgoteg. Yn groes i'r farn gyffredinol, 'roedd Gaeleg yn cael ei siarad dros yr rhan fwyaf o Iseldiroedd yr Alban ar un adeg, yn ogystal â'r Ucheldiroedd, ac mae enwau lleoedd o darddiad Gaeleg yn niferus yn ne a dwyrain y wlad.
Erbyn heddiw mae Gaeleg yn dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin, yn enwedig yn Ynysoedd y Gorllewin, neu Ynysoedd Heledd. Cyngor Ynysoedd y Gorllewin ydyw'r cyngor cyntaf yn yr Alban i gyflwyno cynllun iaith Aeleg debyg i gynlluniau iaith cyrff swyddogol yng Nghymru.
Yng Nghanada, mae'r iaith yn cael ei siarad gan tua 1 000 o bobl yn Yr "Alban Newydd". Iaith geffredin roedd hi, ond heddiw Mae Canada heb ei chefnogi. Mae'r rhan fwyaf o ei siaradwyr yn hen iawn.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Ieithoedd Celtaidd | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |