William John Gruffydd
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd William John Gruffydd (Elerydd).
Ysgolhaig, bardd a golygydd Cymreig oedd William John Gruffydd (14 Chwefror 1881 - 29 Medi 1954).
Ganed ef yng Nghorffwysfa, Bethel (Gwynedd), yn fab i John a Jane Elisabeth Griffith. Roedd yn un o ddisgyblion cynharaf Ysgol Sir Caernarfon, yna bu'n fyfyriwr Coleg yr Iesu, Rhydychen, lle cymerodd radd mewn llenyddiaeth Saesneg. Bu'n athro yn ysgol ramadeg Biwmares o 1904 hyd 1906, pan benodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Penodwyd ef yn Athro yno pan ddychwelodd o'r llynges yn 1918, a bu yn y swydd nes iddo ymddeol yn 1946.
Fel ysgolhaig, gwnaeth lawer o waith ar Bedair Cainc y Mabinogi. Cyhoeddodd Math vab Mathonwy ar y bedwaredd gainc yn 1928, a Rhiannon yn 1953. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes llenyddiaeth Gymraeg.
Daeth yn fwyaf amlwg fel bardd, gan ennill coron Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909 am Yr Arglwydd Rhys. Cyhoeddodd Ynys yr hud a chaneuon eraill yn 1923. Bu'n olygydd Y Llenor o'i gychwyniad yn 1922, a chyhoeddodd nifer fawr o ysgrifau ynddo.
Bu'n aelod blaenllaw o Blaid Cymru am flynyddoedd lawer, ond yn 1943 safodd fel ymgeisydd Seneddol am sedd Prifysgol Cymru fel Rhyddfrydwr, yn erbyn Saunders Lewis oedd yn sefyll dros y Blaid. Gruffudd a etholwyd, a daliodd y sedd hyd 1950.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cyhoeddiadau
[golygu] Beirniadaeth Lenyddol
- Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (1922)
- Llenyddiaeth Cymru, rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (1926)
- Math vab Mathonwy (1928)
- Ceiriog (1939)
- Islwyn (1942)
- Rhiannon (1953)
[golygu] Barddoniaeth
- Caneuon a cherddi (1906)
- Ynys yr hud a chaneuon eraill (1923)
- Caniadau (1932)
[golygu] Dramâu
- Beddau'r proffwydi (1913)
- Dyrchafiad arall i Gymro (1914)
- Dros y dŵr (1928)
[golygu] Rhyddiaith
- Hen atgofion (1936)
- Cofiant O.M. Edwards (1937)
[golygu] Golygwyd neu gyfieithwyd gan Gruffydd
- Cywyddau Goronwy Owen (1907)
- Y Flodeugerdd newydd (1909)
- Blodeuglwm o englynion [1920]
- Perl mewn adfyd (Huw Lewys), argarffiad newydd (1929)
- Y Flodeugerdd Gymraeg (1931)
- Antigone (Sophocles) (1950)
[golygu] Llyfryddiaeth
- T. J. Morgan W.J. Gruffydd (1970)