Truro
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas a chanolfan weinyddol Cernyw yw Truro (Cernyweg: Truru neu Tryverow). Truro yw'r ddinas fwyaf deheuol yn y Deyrnas Unedig, wedi ei lleoli fymryn yn llai na 232 filltir i'r de-orllewin o Lundain (Charing Cross). Mae gan y ddinas boblogaeth o 20,920 o bobl.
Mae'r ddinas yn enwog am ei heglwys gadeiriol, y dechreuwyd ei hadeiladu ym 1879, ac a gwblhawyd ym 1910. Hefyd, mae hi'n lleoliad i Amgueddfa Frenhinol Cernyw (Royal Cornwall Museum), Llysoedd Cyfiawnder Cernyw a neuadd sir newydd Cyngor Sir Cernyw. Yn y ddinas mae canolfan galwadau band eang Grŵp BT.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Mae'r gwedillion yn Carvossa yn dangos bod Truro yn gymuned ers Oes yr Haearn. Yr oedd castell Normanaidd ar un o'r bryniau lle mae adeilad y Llysoedd Cyfiawnder heddiw.
Cododd Truro i amlygrwydd fel tref farchnad a phorth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed. Sut bynnag, mae rôl Truro wedi newid i fod yn brifddinas ddiwylliannol a masnachol i Gernyw gyda dirywiad y diwydiannau pysgota a mwyngloddio tun neu alcam. Mae adeiladau presennol Truro yn dyddio yn bennaf i'r oes Sioraidd neu wedyn, canlyniad ei rôl fel tref stannary pan oedd y diwydiant mwyngloddio yn ei anterth yng ngorllewin Cernyw.
[golygu] Daearyddiaeth
Lleolir Truro yng nghanol Cernyw ar gydlifiad afonydd Kenwyn ac Allen. Credir taw 'tair afon' yw ystyr enw Truro, enw sydd yn cyfeirio at Kenwyn, Allen a nant Glasteinan. Mae Truro wedi dioddef difrod gan lifogydd yn y gorffennol, yn enwedig ym 1988, pryd gwelwyd dau 100-mlynedd dilyw. Cyfododd y problemau hyn oherwydd i lawer o law chwyddo'r afonydd a llanw gwanwyn yn afon Fal. Yn fwy diweddar, cafodd amddiffynfeydd eu hadeiladu, gan gynnwys cronfa frys a gwahanfur llanw, i atal problemau yn y dyfodol.
[golygu] Gefeilldrefi
[golygu] Addysg
Sefydliadau addysgol sydd yn Truro:
Ysgol Truro — ysgol fonedd sefydlwyd ym 1880.
Ysgol Gyfun Truro — ysgol fonedd ar gyfer merched, oedrannau tri trwy ddeunaw.
Ysgol Penair — ysgol y wladwriaeth, gydaddysgol, ar gyfer plant sy'n un ar ddeg oed i un ar bymtheg oed.
Ysgol Richard Lander — ysgol y wladwriaeth, gydaddysgol, ar gyfer plant sy'n un ar ddeg oed i un ar bymtheg oed.
Coleg Truro — coleg addysg bellach ac addysg uwch a agorwyd ym 1993.
[golygu] Rheilffyrdd
Agorwyd terfynfa yn Highertown y 5 Awst 1852 gan Reilffordd Gorllewin Gernyw, lle rhedai trenau i Redruth a Penzance. Estynnwyd y lein i lawr i'r afon yn Newham 16 Ebrill 1855. Daeth Rheilffyrdd Cernyw â lein o Plymouth i orsaf newydd y dref yn Carvedras y 4 Mai 1859, yn croesi uwchben y strydoedd ar ddwy draphont: pont Truro (tros ganol y dref) a phont Carvedras. Wedyn, dargyfeiriodd Rheilffordd Gorllewin Cernyw y rhan fwyaf o'u trenau i deithwyr i'r orsaf newydd, gan adael Newham yn bennaf fel gorsaf lwyth nes ei chau ar 6 Tachwedd 1971. Llwybr beic yw'r ffordd o Highertown i Newham heddiw, yn dilyn dolen hamddenol trwy'r gefn gwlad o gwmpas ochr dde'r ddinas. Ehangodd Rheilffyrdd Cernyw y lein i Falmouth ar 24 Awst 1863.