Triangulum (galaeth)
Oddi ar Wicipedia
Galaeth troellog yng nghytser Triangulum yw Galaeth Triangulum (Messier 33 yng Nghatalog Messier neu NGC 598). Cyfeirir ato weithiau fel y "Galaeth Pin-olwyn" ("Pinwheel Galaxy") mewn llyfrau poblogaidd ar seryddiaeth, ond mae hwnnw'n enw poblogaidd am galaeth Messier 101 yn ogystal. Galaeth Triangulum yw'r trydydd mwyaf yn y Grŵp Lleol, y grŵp o galaethau sy'n cynnwys y Llwybr Llaethog (ein galaeth ni) a Galaeth Andromeda, ac mae'n bosibl ei fod yn gydymaith disgyrchiant i galaeth Andromeda. Mae'n bosibl fod y galaeth Pisces Corrach (LGS 3), sy'n rhan o'r Grŵp Lleol hefyd, yn gydymaith i Driangulum.
Ar nosweithiau braf gellir gweld Galaeth Triangulum heb delesgôp; dyma'r gwrthrych pellach i ffwrdd o'r ddaear sy'n weladwy i'r llygaid felly. Ond dylid fod yn ofalus i beidio â'i chymysgu â NGC 752, clystwr agored gerllaw sy'n fwy disglair yn yr awyr na Triangulum ei hun.
Yn sgîl arsyllu gofalus yn 2005, mae ymchilwyr wedi llwyddo am y tro cyntaf i amcangyfrif troellu onglaidd a symudiad cywir Triangulum. Amcangyfrifir cyflymder o 190 ± 60 km/s mewn perthynas â'r Llwybr Llaethog sy'n awgrymu hefyd fod Triangulum yn symud i gyfeiriad Galaeth Andromeda.